Agor y Gist Cist Gwynedd 2024 25 Grantiau cyfalaf a refeniw ar gael i grwpiau cymunedol a gwirfoddol Gwynedd

Dyddiad: 24/04/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn annog grwpiau gwirfoddol a chymunedol Gwynedd i ystyried gwneud cais am grantiau refeniw a chyfalaf er mwyn cefnogi amrywiol brosiectau fydd yn arwain at wella safon bywyd trigolion a chymunedau’r sir.

 

Mae Cronfa Cefnogi Cymunedau, yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i annog cymunedau i wireddu’r amcanion hyn drwy gymryd rôl fwy rhagweithiol yn eu cymunedau.

 

Yn ogystal, mae Cronfa’r Degwm yn cynnig grantiau hyd at £3,000 i elusennau cofrestredig, ac mae canran o’r gronfa ar gael i eisteddfodau lleol yng Ngwynedd.

 

Mae holl fanylion y grantiau sydd ar gael, manylion cyswllt a phecynnau ymgeisio ar gyfer y cronfeydd yma ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd

Grantiau Cist Gwynedd (llyw.cymru)

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys sy’n arwain ar y maes Economi a Chymunedau ar Gyngor Gwynedd:

 

“Mae grantiau Cist Gwynedd yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau sy’n arwain at gryfhau cymunedau ledled y sir. Dyma gyfle i’n trigolion wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau eu hunain.”

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i Gronfa Cefnogi Cymunedau a Chronfa’r Degwm ydi 14 Mehefin 2024.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa Cist Gwynedd ar 01286 679870, neu drwy e-bostio: CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru