Dathlu 'pennod fawr yn neffroad y werin Gymreig'

Dyddiad: 24/04/2024
Dydd Sadwrn nesaf, bydd cyfres o ddigwyddiadau arbennig i gofio carreg filltir hollbwysig yn hanes ardaloedd chwareli Gwynedd ac yn hanes cymdeithasol a diwydiannol Cymru.

Bydd y dathliadau yn Llanberis yn nodi sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru union 150 o flynyddoedd ynghynt, ar 27 Ebrill 1874, i hawlio gwell amodau gwaith i’r chwarelwyr. Bu’r undeb yn gefn i’r gweithwyr a’u teuluoedd am bron i 90 mlynedd.

Yn ôl Saunders Lewis, un o bennaf ysgolheigion ei ddydd, roedd sefydlu’r undeb hwn, a’i weithgarwch dros y degawdau wedyn, yn un o’r gorchestion cymdeithasol mwyaf y gallai unrhyw Gymry gwladgarol ymfalchïo ynddynt. Roedd hefyd o’r farn fod yr Undeb yn cynrychioli un o weithredoedd cenedlaethol pwysicaf Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Bydd y dathliadau’n cychwyn yn Amgueddfa Lechi Cymru gyda darlith ‘Undeb y Chwarelwyr: 1874-2024’ gan yr Athro R Merfyn Jones, yr hanesydd a’r ysgolhaig sy’n cael ei gydnabod fel yr awdurdod mwyaf ar hanes y diwydiant.  Bydd cyfle hefyd i weld dogfennau gwreiddiol yr Undeb a gedwir fel arfer yn Archifdy Caernarfon.

Wedi’r ddarlith, bydd taith gerdded ar hyd glannau Llyn Padarn at Graig yr Undeb - safle eiconig sydd o arwyddocâd arbennig yn  hanes chwarelwyr yr ardal. Yma, yng nghysgod Chwarel Dinorwig ar Elidir Fawr, a oedd yn cyflogi dros 3,000 o weithwyr yn ei anterth, yr arferai aelodau’r Undeb gyfarfod. Y rheswm dros hyn oedd bod cyfarfodydd o’r fath yn cael eu gwahardd o dir stad y Faenol, perchnogion y chwarel, ond gan fod tir Craig yr Undeb yn eiddo i stad Glynllifon, a oedd yn gystadleuwyr i’r Faenol, doedd dim gwrthwynebiad i chwarelwyr y Faenol gyfarfod ar eu tir. Mae adroddiadau am hyd at 6,000 o chwarelwyr yn bresennol mewn cyfarfod yma ym mis Chwefror 1886, yn ystod streic gan chwarelwyr Dinorwig ar y pryd.

Bydd y daith, tua dwy filltir o hyd ar lwybr gwastad Lôn Las Peris, yn cychwyn am 3pm o’r Amgueddfa. Yn adlais o’r traddodiad yn nigwyddiadau’r Undeb yn y gorffennol, bydd baner arbennig i ddathlu hanes yr undeb yn cael ei chario yn ystod y daith gerdded. Crëwyd y faner gan fyfyrwyr a disgyblion o’r ardal, a chyfranogwyr mewn gweithdai cymunedol yn Llanberis a Bethesda.

 

Pan sefydlwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874, roedd yn gyfnod o anghydfod diwydiannol a gwrthdaro parhaus rhwng y gweithwyr a’u meistri, ac ymladdodd yr undeb sawl brwydr arwrol ar eu rhan. Y fwyaf a’r enwocaf oedd Streic Fawr Chwarel y Penrhyn ar droad yr 20fed ganrif, pan fu’r dynion allan am dair blynedd, hyd nes gorfod ildio yn y diwedd ym mis Tachwedd 1903.

 

Yn ôl Emyr Jones, awdur ‘Canrif y Chwarelwr’, cyfrol boblogaidd o hanes y diwydiant a gyhoeddwyd yn 1963:

 

“Hanes trist, ar lawer ystyr, sydd i’r ‘Undeb’, oherwydd yn llaw’r perchnogion yr oedd y chwip bob amser. Ni allai’r Undeb fforddio i alw’r dynion allan ar streic swyddogol, ac ni allai’r dynion, hwythau fforddio i golli’r cyflog er lleied oedd. Fodd bynnag, does wybod beth a allasai fod hebddo; bu’n gefn da i’r chwarelwyr, ac fe saif ‘Craig yr Undeb’ am byth yn gofgolofn i’r tadau glewion a gyrchodd yno ar droed i ymladd dros eu hiawnderau, ac i geisio byd amgenach i’w meibion.”

 

Mewn ysgrif yn 1932, dadleuai Saunders Lewis fod pwysigrwydd a gwerth mawr i agweddau eraill hefyd o waith yr Undeb:

 

“Nid gwella amgylchiadau’r chwarelwyr yn unig a wnaeth yr undeb hwn, ond bu’n ysgol mewn gwyddor gymdeithasol i bobl ... Y mae hanes y diwygiad moesol ym myd gwaith a masnach a wnaeth Undeb y Chwarelwyr yn bennod fawr yn neffroad y werin Gymreig. Nid gormod dweud bod Undeb y Chwarelwyr yn gam hanfodol ar y ffordd i ffurfiad Plaid Genedlaethol Cymru.”

 

Cafwyd dathliadau mawr i nodi canmlwyddiant Undeb y Chwarelwyr yn 1974, ac mae plac ar Graig yr Undeb yn nodi ymweliad Jack Jones, arweinydd undeb y TGWU ar y pryd. Ac yntau wedi cael ei ethol yn Aelod Seneddol Caernarfon wythnosau ynghynt, roedd Dafydd Wigley ymysg y rhai fu’n annerch cannoedd o gyn-chwaraelwyr yn y dathliadau hynny. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, dywed fod hanes yr Undeb yr un mor bwysig a pherthnasol i ni heddiw:

 

"Chwaraeodd Undeb y Chwarelwyr ran ganolog i godi ymwybyddiaeth y chwarelwyr o’r nerth yr oedd ganddynt fel gweithlu ac o’r camau ymarferol oedd eu hangen i warchod eu diogelwch, eu hamodau gwaith a’u cyflogau,” meddai.

 

“Ymhlith y brwydrau hyn oedd sicrhau ysbytai diwydiannol mewn chwareli.

 

"Erbyn y saithdegau roedd y diwydiant wedi crebachu a’r hen Undeb wrth gwrs bellach yn rhan o’r TGWU. Roedd yn fraint i ni fel ASau gydweithio â nhw yn y frwydr i sicrhau iawndal i ddioddefwyr afiechydon oedd yn tarddu o lwch ar yr ysgyfaint, gan lwyddo yn 1979 i gael y Ddeddf Pneumoconiosis i’r llyfr statud.

 

"Undeb y Chwarelwyr oedd y cyfrwng i godi ymwybyddiaeth y chwarelwyr a’r gymdeithas ehangach o’r angen i bobl sefyll gyda’i gilydd i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol."

 

Nodiadau

Daeth Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru (UChGC) yn rhan o’r Undeb Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (TGWU) yn 1922, gan gadw ei hunaniaeth ei hun a rheolaeth dros faterion mewnol tan 1960.

Mae’r digwyddiadau yn agored i’r cyhoedd ac yn rhad ac am ddim, ond rhaid archebu lle yn y ddarlith o flaen llaw drwy ffonio (01286) 679095 neu ebostio archifau@gwynedd.llyw.cymru. Traddodir y ddarlith drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd darpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

Trefnwyd y digwyddiadau hyn, a’r gweithdai creu baneri blaenorol, ar y cyd gan Wasanaeth Archifau Gwynedd, Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis a Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon.

Mae croeso cynnes i’r wasg a’r cyfryngau lleol fynychu’r digwyddiadau hyn. Cysyllter o flaen llaw â Gwasanaeth Cyfathrebu Cyngor Gwynedd: 01286 679503 / cyfathrebu@gwynedd.llyw.cymru