Cyngor Gwynedd yn sicrhau diogelwch drwy gymryd camau yn erbyn perchnogion adeilad
Dyddiad: 06/07/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi codi hysbysiad i berchnogion y Corbett Arms yn Nhywyn i wneud gwaith angenrheidiol i'r adeilad oherwydd ei gyflwr adfeiliedig, sy'n niweidiol iawn i'r fwynderau’r ardal.
Mae hyn yn dilyn gwaith brys gan swyddogion Rheolaeth Adeiladu'r Cyngor ym mis Chwefror 2023 o dan Adran 78 o'r Ddeddf Adeiladu i wneud teils cefnen rhydd yn ddiogel ac i sicrhau diogelwch y cyhoedd.
Yn fwy diweddar, mae swyddogion Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio i gymryd camau priodol, wrth orfodi'r perchennog i atgyweirio ac adfer elfennau o'r adeilad.
Mae cyflwr yr adeilad rhestredig wedi bod yn bryder i drigolion lleol ers peth amser ac mae'r Cyngor wedi bod yn gwneud pob ymdrech i annog y perchnogion i wneud y gwaith angenrheidiol.
Fodd bynnag, gan nad yw hyn wedi arwain at wneud y gwaith gofynnol, mae'r Cyngor wedi bwrw mlaen i gyhoeddi'r hysbysiad Adran 79.
Dywedodd Martin Evans, Rheolwr Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd: "Fel Cyngor, nid ar chwarae bach rydym yn cymryd camau o'r fath. Ond er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, ac i orfodi'r perchennog i weithredu ynghylch cyflwr yr adeilad, rydym yn teimlo nad oes opsiwn arall ar hyn o bryd.
"Mae'n anffodus bod pethau wedi dod i hyn, ond mae cyfrifoldeb ar berchnogion eiddo i wneud yn siŵr eu bod yn gofalu am eu hadeiladau yn y gymuned. Cyn cyhoeddi hysbysiad, mae swyddogion yn gwneud pob ymdrech i annog perchnogion i gwblhau'r gwaith angenrheidiol, i ymgysylltu â nhw i egluro pam mae angen y gwaith a rhoi amser i'w gwblhau. Ond yn yr achos yma, dyw'r perchnogion ddim wedi gwneud y gwaith a doedd dim dewis gennym ond cyhoeddi'r hysbysiad gorfodi."
Bydd gan y perchennog chwe mis i wneud y gwaith angenrheidiol, ac mae ganddynt 21 diwrnod o'r hysbysiad cyhoeddi i apelio.