Mwynhau Gwynedd yn ddiogel ac yn gyfrifol
Dyddiad: 21/08/2023
Gyda Gŵyl y Banc yn nesáu i goroni gwyliau haf prysur arall, mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa pawb i gadw eu hunain a'r rhai o'u cwmpas yn ddiogel drwy gynllunio eu hymweliad a'u gweithgareddau ymlaen llaw.
Os ydych chi'n bwriadu crwydro’r mynyddoedd neu am fwynhau arfordir a llynnoedd godidog yr ardal, mae'r neges yn glir - byddwch yn ystyriol i eraill ac i drin cymunedau a'r amgylchedd gyda pharch.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
"Ein neges i bobl yn ystod gwyliau'r haf yw cynllunio eu hymweliad a'u gweithgareddau ymlaen llaw. Defnyddiwch y meysydd parcio priodol a gwnewch y mwyaf o'r gwasanaethau bysiau sydd ar gael i weld yr ardal.
"Mae gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg yn rheolaidd ac yn cysylltu llwybrau poblogaidd o amgylch yr Wyddfa, sydd wrth gwrs yn ychwanegol i’r rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach a’r mentrau cymunedol i'ch helpu i fynd o A i B. Beth am leddfu’r straen cyn cychwyn ar eich antur yn mynyddoedd Eryri ac atyniadau lleol poblogaidd eraill trwy adael eich car yn un o'r meysydd parcio priodol niferus a dal y bws.
"Gofynnwn i fodurwyr barchu'r cyfyngiadau parcio a chadw'r ffyrdd yn glir ac yn ddiogel. Gall parcio anghyfrifol ei gwneud hi'n anodd iawn i gerbydau'r gwasanaethau brys basio.
"Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid i fonitro tueddiadau parcio ac i gymryd y camau gorfodi priodol yn erbyn y modurwyr hynny sy'n parcio'n anghyfreithlon."
Mae manylion am yr holl wasanaethau bws cyhoeddus yng Ngwynedd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/cludiant ac os ydych yn ansicr o leoliadau meysydd parcio, mae gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar gael yn www.gwynedd.llyw.cymru/parcio Mae nifer sylweddol o feysydd parcio'r Cyngor hefyd yn cynnig dull talu ap 'Paybyphone' ar y ffôn.
Mae arfordir Gwynedd yn wirioneddol hyfryd, ond mae'n bwysig bod pawb sy'n ymweld yn ymwybodol o beryglon yr arfordir ac yn trin yr amgylchedd naturiol gyda pharch.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:
"Os byddwch chi'n mwynhau arfordir a thraethau Gwynedd dros y gwyliau, yna gwiriwch ragolygon y tywydd, byddwch yn ymwybodol o'r llanw a chofiwch drin y môr gyda pharch.
"Peidiwch â mentro ymdrochi os nad ydych yn hyderus eich bod yn gallu nofio i'r lan yn ddiogel a chofiwch ddweud wrth rywun ble rydych chi'n mynd. Os ydych yn hwylio, yna gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl offer diogelwch ar y gwch a byddwch yn ystyriol o eraill trwy gydymffurfio â rheolau llywio.
"Byddwch yn ystyriol os ydych chi'n dod i'r traeth mewn car neu gerbyd arall. Os yw'r maes parcio yn llawn, ystyriwch fynd i draeth neu atyniad arall.”
Mae rhagor o wybodaeth am ymweld ag arfordir Gwynedd yn ddiogel ar gael yma: www.visitsnowdonia.info/cy/traethau-ar-arfordir
Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Beth bynnag yw eich cynlluniau – os ydych yn mynd i’r traeth, yn crwydro llwybrau troed y sir, neu’n ymweld a’n llynnoedd ac afonydd difyr – os gwelwch yn dda parchwch yr amgylchedd a'r gymuned leol drwy gael gwared ar eich sbwriel yn gyfrifol trwy naill ai ei roi mewn bin cyhoeddus neu fynd ag ef adref. Dylai perchnogion cŵn hefyd bob amser godi a gwaredu llanast eu hanifail anwes a chadw at y rheoliadau lleol."
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am gynllunio ymlaen llaw ar wefannau Eryri Mynyddoedd a Mor: www.ymweldageryri.info/cy/cynllunio-eich-ymweliad a Pharc Cenedlaethol Eryri: www.eryri.llyw.cymru/ymweld/cynllunio-eich-ymweliad/