Cyfle i roi barn ar y drefn bleidleisio ar gyfer ethol Cynghorwyr Sir Gwynedd

Dyddiad: 17/07/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ar y ffordd mae Cynghorwyr Sir yn cael eu hethol.

Ar hyn o bryd, caiff Cynghorwyr Sir Gwynedd eu dewis drwy system etholiadol Mwyafrif Syml (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel system cyntaf i’r felin), sef un o’r ddwy system bleidleisio a ganiateir gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Yr opsiwn arall i gynghorau Cymru yw System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel system bleidleisio gyfrannol neu ‘proportional representation’).

Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar newid posib i’r drefn pleidleisio, ac mae cyfle i bawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngwynedd i ddweud eu dweud ar y mater.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Cefnogaeth Gorfforaethol: “Rydym eisiau clywed barn pobl Gwynedd ac mae cyfle i bawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngwynedd i lenwi holiadur byr.

“Bydd yr ymgynghoriad ar agor rhwng 15 Gorffennaf a 15 Medi 2024, yna bydd cynghorwyr Gwynedd yn ystyried yr holl ymatebion ac adborth yn ofalus cyn gwneud penderfyniad terfynol mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2024. 

“Fel rhan o’r broses ymgynghori hon, rydym hefyd yn casglu barn cynghorau cymuned, cynghorau tref a’r cyngor dinas yng Ngwynedd.”

Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/systembleidleisiogwynedd

Bydd copïau papur ar gael mewn llyfrgelloedd lleol Gwynedd ac yn Siop Gwynedd Caernarfon, Dolgellau a Phwllheli (ar agor 9am-4pm, Llun-Gwener, ac eithrio Gŵyl y Banc).

I dderbyn copi drwy’r post, neu mewn iaith neu fformat arall, ffoniwch 01766 771000.

Rhagor o wybodaeth 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i www.gwynedd.llyw.cymru/systembleidleisiogwynedd