Cyngor Gwynedd yn treialu cynllun rheoli yn ardal Dinas Dinlle
Dyddiad: 12/07/2024
Mae un o draethau mwyaf poblogaidd Gwynedd wedi gweld gwaith uwchraddio sylweddol i’w adnoddau cyhoeddus a nawr bydd Cyngor Gwynedd yn datblygu cynllun rheoli ar gyfer y safle er mwyn sicrhau gwell diogelwch a mwynhad i bawb.
Dros y misoedd diwethaf, cwblhawyd gwaith sylweddol i uwchraddio’r maes parcio ac adnoddau eraill yn Ninas Dinlle, sy’n denu miloedd o ymwelwyr yn flynyddol. Mae’r gwaith - a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru - wedi cynnwys:
- ail-wynebu’r maes parcio presennol a gosod mannau parcio pwrpasol;
- cyflwyno trefn unffordd yn y maes parcio er diogelwch defnyddwyr;
- gwelliannau i adnoddau trafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys creu lloches bws a llecyn bws pwrpasol oddi ar y briffordd;
- mannau picnic;
- raciau ar gyfer beiciau;
- gwelliannau i’r waliau cynnal a thirweddu;
- biniau newydd a chyfleusterau ailgylchu.
Nawr fod y cymal yma o’r gwaith wedi ei gwblhau, bydd Cyngor Gwynedd yn symud ymlaen i dreialu cynllun rheoli ar gyfer yr ardal, fydd yn cynnwys:
- treialu codi ffi am barcio yn ystod misoedd Awst a Medi 2024;
- edrych ar opsiynau i gael gwell rheolaeth ar gerbydau’n parcio dros nos;
- ystyried mesurau ar gyfer gwarchod camddefnydd o’r mannau parcio anabl, mannau ‘cadw’n glir’, mynedfeydd, a mesurau diogelwch ffordd pellach;
- rhoi trefniadau mewn lle ar gyfer cyllidebau cynnal a chadw ar gyfer yr adnoddau parcio i’r dyfodol.
Ar ôl yr arbrawf, bwriad y Cyngor fydd casglu adborth y cyhoedd, busnesau lleol a’r Cyngor Cymuned er mwyn addasu a gwella’r cynllun rheoli.
Mae trefniadau i godi am barcio eisoes yn weithredol ar draethau poblogaidd eraill yn y sir. Yn 2019 penderfynodd Cabinet Cyngor Gwynedd y dylid codi ffi yn Ninas Dinlle fel rhan o gynlluniau arbedion y Cyngor ond oedwyd y cynllun oherwydd y pandemic Covid-19 ac er mwyn gwneud y gwaith gwelliannau.
Am gyfnod prawf o chwe wythnos o 5 Awst 2024 ymlaen, bydd rhaid talu os am barcio am fwy nag awr. Yna, ar ôl y cyfnod prawf, bydd Cyngor Gwynedd yn ymgysylltu â’r gymuned leol er mwyn casglu adborth.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Economi a Chymuned:
“Dwi’n deall yn llwyr fod newid yn anodd ac na fydd codi ffioedd o’r newydd yn boblogaidd. Ond yn anffodus os ydym am barhau i gynnal a chadw ein hadnoddau ar gyfer pawb sy’n eu defnyddio - yn bobl leol ac yn ymwelwyr - mae’n rhaid edrych eto ar ein trefniadau. Dwi’n hyderus bydd pobl yn parhau i fwynhau lleoliad arbennig Dinas Dinlle.
“Rydym wedi cytuno bydd parcio am yr awr gyntaf ac ar ôl 5pm yn parhau i fod am ddim, ac yna bydd y ffi yn codi’n raddol yr hiraf mae rhywun yn parcio eu car. Bydd tocyn tymor ar gael hefyd i rheini sy’n ymweld yn aml.
“Rydym yn ddiolchgar am sylwadau’r Aelodau Lleol a’r Cyngor Cymuned lleol yn ystod y gwaith a drwy dreialu’r mesurau newydd rydym mewn sefyllfa i holi’r gymuned leol beth sydd wedi mynd yn dda a lle mae lle i wella i’r dyfodol.
“Yn y cyfamser, gall unrhyw un anfon eu sylwadau atom drwy ddefnyddio’r côd QR fydd ar y peiriannau talu-ac-arddangos ar y safle neu gysylltu â’r Gwasanaeth Morwrol ar morwrol@gwynedd.llyw.cymru.”
Nodiadau
Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfnod arbrawf drwy godi tâl parcio rhwng 5ed Awst – 20fed o Fedi 2024.
Yn ystod y cyfnod arbrawf, bwriedir codi ffioedd parcio isod rhwng oriau 0900 – 1700 yn ddyddiol:
Hyd at 1 awr : Am ddim
Hyd at 2 awr : £2
Hyd at 3 awr : £3
Hyd at 8 awr : £6
Fel rhan o drefniadau arbrawf, bwriedir hefyd cynnig Tocyn Tymor 2024 am swm o £25 y cerbyd.