Dedfrydu Neil Foden – Datganiad gan y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg

Dyddiad: 01/07/2024

Fel Aelod Cabinet Addysg ar Gyngor Gwynedd – ac fel mam – rwyf wedi dilyn achos y cyn-bennaeth Neil Foden gyda braw, ac yn ffieiddio at yr hyn a wnaeth.  

Rydw i’n croesawu’r ddedfryd heddiw ac yn gobeithio y daw’r canlyniad â pheth heddwch i’r dioddefwyr a’u teuluoedd. 

Mae’r hyn ddigwyddodd i’r merched y bu i Neil Foden eu cam-drin yn ddim llai na thrychineb. 

Cawn ddeall mwy am fanylion y gwersi sydd i’w dysgu a beth yn union ddigwyddodd pan fydd adolygiad Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn adrodd, ac rwy’n ymrwymo i weithredu pa argymhellion bynnag a ddaw. 

Ond yn y cyfamser, mae’n gwbwl amlwg imi bod y merched yma wedi cael eu gadael i lawr. Hawl sylfaenol pob plentyn yw i fod yn ddiogel, ac i fod yn ddiogel yn yr ysgol. Ddylai’r merched yma byth fod wedi dioddef fel hyn mewn man ble roeddent i fod yn derbyn addysg a chael profiadau cadarnhaol mewn awyrgylch ofalgar, ddiogel. 

Mae eu dewrder a’u penderfyniad cadarn wrth ddod ymlaen i adrodd am eu profiadau yn destun edmygedd dwfn iawn i mi.  

Does dim byd pwysicach na diogelwch plant a phobl ifanc ac mae gofalu amdanynt yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol yn gyfrifoldeb gyda’r mwyaf sy’n bod.

Mae lles plant a phobl ifanc ar frig fy mlaenoriaethau i, a'r Cyngor, ac yn y cyfnod heriol yma ble mae pobol ifanc dan straen a phwysau o sawl cyfeiriad, mae’n bwysig ein bod i gyd yn parhau i weithio’n galed i geisio creu yr amgylchiadau gorau posib i’n hieuenctid ni ar eu taith drwy ein hysgolion. 

Beth bynnag fydd canlyniad yr adolygiad sydd ar waith, yng nghanol hyn oll mae merched ifanc sydd wedi dioddef profiad arswydus - a dylai’r hyn ddigwyddodd iddyn nhw fyth ddigwydd eto. 

Rwyf yn awyddus i gydweithio gyda’r adolygiad a byddwn yn croesawu unrhyw argymhellion cynnar neu syniadau am wersi i’w dysgu wrth fynd ymlaen o’r fan hon. 

Rwy’n croesawu penodiad y cadeirydd ac ymchwilwyr annibynnol, sy’n brofiadol iawn yn y maes hwn, ac rwy’n awyddus i gylch gwaith yr adolygiad fod yn eang a thrylwyr gyda thystiolaeth yn cael ei darparu gan bawb yn ôl yr angen. 

Mae’n bosib iawn y bydd angen ymchwiliadau eraill hefyd yn ogystal â’r un presennol - ymchwiliad cyhoeddus, er enghraifft. Mi fyddwn i’n croesawu ymchwiliad o’r fath - yn wir mi fyddwn i’n dymuno gweld un os fydd angen hynny er mwyn rhoi sicrwydd i rieni Gwynedd bod pob carreg yn cael ei throi. 

Dymunaf fynegi yn ddiamwys fy mod yn sefyll gyda’r dioddefwyr, yn diolch am eu gwytnwch rhyfeddol ac yn estyn fy nghydymdeimladau dwysaf iddyn nhw, eu teuluoedd a’u cyfeillion.