Dweud eich dweud ar reoliadau cŵn yng Ngwynedd

Dyddiad: 25/07/2024
Mae Cyngor Gwynedd eisiau clywed barn y cyhoedd am reolau sy’n ymwneud a chŵn mewn mannau cyhoeddus fel traethau a pharciau chwarae.

 

Mae gorchmynion rheoli cŵn wedi bod yn weithredol yng Ngwynedd ers dros ddeng mlynedd. Maent yn gosod rheolau clir i unrhyw un sy’n mynd a chi i fan cyhoeddus ac yn rhoi’r hawl i’r Cyngor i gosbi'r rheini sy’n torri’r rheolau hyn.

 

Mae’r gorchmynion yn cynnwys pethau fel:

  • pheidio â chlirio neu godi baw ci;
  • gadael i gi fynd ar dir lle mae cŵn wedi eu gwahardd, er enghraifft caeau chwarae, tir ysgolion a cholegau a rhai traethau ar adegau penodol o’r flwyddyn;
  • peidio rhoi, a chadw ci ar dennyn pan ofynnir i’r person wneud hynny gan swyddog awdurdodedig.

 

Mae’r gorchmynion cyfredol yn rhoi’r hawl i swyddogion Cyngor Gwynedd roi rhybudd cosb penodedig o hyd at £100 i unrhyw un sy’n mynd yn groes i’r rholiadau ac yn caniatáu i’w cŵn achosi niwsans i weddill cymdeithas. Gallai hyn arwain ar erlyniad gan y Llysoedd.


Mae Cyngor Gwynedd eisiau clywed barn y cyhoedd os ydynt yn fodlon i’r gorchmynion cyfredol gael eu hymestyn am y tair blynedd nesaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am Wasanaethau Stryd o fewn y Sir:

 

“Cyflwynwyd y gorchmynion sy’n ymwneud â chŵn mewn mannau cyhoeddus yng Ngwynedd gyntaf yn 2013 ac maent wedi eu diweddaru ers hynny. Mae’n amser i ni edrych unwaith eto ar y rheoliadau cyfredol a ddiweddarwyd yn 2021 ac rydym yn gofyn i bobl Gwynedd ddweud eu dweud os ydynt yn cefnogi bwriad y Cyngor i’w hymestyn am dair blynedd bellach.

 

“Mae perchnogaeth cŵn wedi cynyddu yn ddiweddar ac mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion yn ystyrlon o eraill ac yn ymddwyn mewn ffordd gyfrifol. Ond mae’r gorchmynion sydd mewn lle yn caniatáu i’r Cyngor fynd ar ôl y nifer bychan sy’n ymddwyn mewn ffordd ddi-hid, er enghraifft yn caniatáu i’w cŵn redeg yn rhydd - a baeddu - ar feysydd chwaraeon a chaeau chwarae plant.

 

“Os oes gennych farn ar y rheoliadau presennol, byddwn yn eich annog i gwblhau’r holiadur byr sydd ar wefan y Cyngor.”

 

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, dylai pobl fynd i wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud. Am gopi papur, gellir cysylltu a Gwasanaethau Stryd y Cyngor ar RheoliCwn@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000. Mae’r holiadur yn cau nos Sul, 4 Awst 2024.