Ail-lansio Croeso Cynnes ar gyfer gaeaf 2023-2024
Dyddiad: 24/10/2023
Mae cynllun Croeso Cynnes yn ail ddechrau eto dros y gaeaf, ac mae Cyngor Gwynedd yn annog unrhyw sefydliad neu fusnes lleol sydd efo diddordeb cynnig lle diogel a chynnes i gofrestru ar gyfer y cynllun.
Lansiwyd cynllun Croeso Cynnes yn ôl mis Hydref 2022 er mwyn cynnig lloches gynnes yn rhad ac am ddim i bobl. Gyda chostau byw ac ynni yn parhau i frathu a phobl yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd rhwng prynu hanfodion a gallu talu biliau, mae’n bwysicach nag erioed fod yna gofod addas a chynes ar gael.
Gellir sefydliadau neu fusnesau cofrestru ar gyfer y cynllun drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/CroesoCynnes sydd hefyd yn cynnwys map o leoliadau Croeso Cynnes yng Ngwynedd.
Mae’r grant cynlluniau bwyd a chroeso cynnes ar agor ar hyn o bryd hefyd i helpu tuag at gynlluniau bwyd a bwydo: Cronfa Cynlluniau Bwyd (llyw.cymru)
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio ar y cyd â Menter Môn i weinyddu’r cynllun ac mae llu o fusnesau a sefydliadau lleol eisoes yn cynnig i bobl gael mynd yno i gadw’n gynnes a chael cyfle am sgwrs. Mae rhai o leoliadau sy’n gysylltiedig â Chyngor Gwynedd hefyd ar y rhestr, gan gynnwys llyfrgelloedd, Storiel Bangor a chanolfannau hamdden y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Gyda’r gaeaf yn brysur ein cyrraedd rwyf yn annog sefydliadau a busnesau’r sir sydd efo diddordeb cynnig lle diogel a chynnes i bobl i wneud hynny drwy gofrestru gyda’r cynllun Croeso Cynnes.
“Gyda chostau trydan a nwy yn parhau i fod yn boen meddwl i nifer fawr o bobl, mae mor bwysig ein bod yn dod at ein gilydd er mwyn gwneud y mwyaf o’r ymdrech gymunedol hon.
“Rwyf yn hynod o ddiolchgar i’r holl grwpiau a busnesau ddaru gymryd rhan yn y cynllun gaeaf diwethaf ac sydd wedi cofrestru ar gyfer y gaeaf yma hefyd.
“Felly peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun a gwnewch y mwyaf o’r llefydd diogel a chynnes sydd ar gael i chi.”
Un elfen mewn pecyn cymorth ehangach gan Gyngor Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng costau byw ydi’r cynllun Croeso Cynnes. Mae’r Cyngor yn awyddus i sicrhau fod pobl leol yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol maent yn gymwys amdano. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan y Cyngor sy’n crynhoi’r holl gymorth mae’r Cyngor yn ei gynnig mewn un lle, er enghraifft cyngor ar fudd-daliadau, gwybodaeth am ynni yn y cartref a manylion cyswllt sefydliadau eraill sy’n gallu helpu. Anogir trigolion i fwrw golwg dros y dudalen er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gymorth, cefnogaeth a chyngor ymarferol sydd ar gael. Ewch i’r wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw