Gwaith ar Bontydd Lôn Las Ogwen

Dyddiad: 27/10/2023
Lon Las Ogwen
Ar 3 Tachwedd 2023 bydd gwaith yn dechrau i osod dwy bont newydd ar lwybr Lôn Las Ogwen, gyda'r gwaith yn cael ei gwblhau tua chanol mis Chwefror 2024.

Bydd y llwybr ar gau o fynedfa'r bwa ger Menai Seafood hyd at y danffordd o dan ffordd Llandegai.

Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar y ddwy bont bresennol ond yn gadael y trawstiau dur. Bydd y trawstiau wedyn yn cael eu glanhau a'u hailbeintio, ac ar ôl hynny bydd y pontydd newydd yn cael eu hadeiladu ar eu pennau.

Bydd llwybr gwiriad yn ei le o 3 Tachwedd 2023 tan ganol mis Chwefror 2024. Bydd y gwyriad o danffordd yr A5 Lon Llandegai, gan adael wrth fynedfa Maesgeirchen ac yn mynd â chi i'r llwybr troed / palmant sy'n mynd i lawr o Faesgerichen tuag at Fangor. Bydd arwyddion sy'n nodi’r gwiriad yn cael eu gosod gan y contractwyr pan fydd y gwaith yn dechrau.