Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy ar gau

Dyddiad: 10/01/2023
Bydd Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ar gau oherwydd difrod dŵr i’r adeilad wedi i beipen fyrstio.

Mae gwaith atgyweirio eisoes ar y gweill ac mae rheolwyr y safle yn gobeithio gallu ail-agor a chroesawu ymwelwyr unwaith eto yn fuan.

Mae’r amgueddfa yn adrodd hanes Lloyd George, o’i blentyndod yn Llanystumdwy i Stryd Downing a thu hwnt ac mae’n gartref i gasgliad gwerthfawr gan gynnwys Cytundeb Versailles, gwisgoedd ac eitemau personol. Ni ddifrodwyd dim o’r creiriau amhrisiadwy hyn gan y dŵr ac mae staff yr amgueddfa yn gweithio’n galed i sicrhau fod yr holl gasgliad yn parhau i gael eu diogelu wrth i’r gwaith atgyweirio fynd yn ei flaen.

Bydd staff Amgueddfa Lloyd George yn cysylltu’n uniongyrchol efo ysgolion a grwpiau eraill sydd wedi trefnu i ymweld â’r amgueddfa dros yr wythnosau nesaf er mwyn trafod cynlluniau amgen.

Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bydd modd ail-agor cyn gynted â phosib a bydd Cyngor Gwynedd yn darparu diweddariadau ynghylch sefyllfa. Gofynnir yn garedig i’r cyhoedd sy’n bwriadu ymweld â’r amgueddfa yn y gwanwyn i wirio gwefan y Cyngor cyn teithio i wneud yn siŵr os ydyw ar agor. Bydd manylion ar: www.gwynedd.llyw.cymru/Amgueddfeydd

Mae Cyngor Gwynedd yn diolch o flaen llaw i bobl am eu hamynedd a dealltwriaeth tra cynhelir y gwaith adfer pwysig hyn.