Straeon gofalwyr maeth yng Ngwynedd yn dangos y gall pawb gynnig rhywbeth a chefnogi plant mewn gofal yng Nghymru.
Dyddiad: 12/01/2024
Nod yr ymgyrch genedlaethol yw ysbrydoli pobl o bob cefndir i ystyried maethu gydag awdurdod lleol.
Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.
Ar hyn o bryd mae mwy na 170 o blant mewn gofal maeth yng Ngwynedd a 71 o deuluoedd maeth, ond mae angen o leiaf 12 gofalwr maeth ychwanegol i gwrdd â'r galw cynyddol.
Yr wythnos hon, aeth Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobl ifanc lleol.
Mae Maethu Cymru Gwyneddwedi ymuno â’r ymgyrch newydd, ‘Gall Pawb Gynnig Rhywbeth,’ gan ddefnyddio eu hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobl a all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.
Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobl i ddatblygu’r ymgyrch – gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.
Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol a oedd yn atal darpar ofalwyr rhag ymholi:
• Diffyg hyder yn eu sgiliau a'u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal.
• Y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.
• Camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.
Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.
Mae Nici a Dan yn ofalwyr maeth hirdymor yng Ngwynedd. Mae nhw wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yng Ngwynedd ers dros 14 mlynedd, gan ddarparu sefydlogrwydd ac amgylchedd teuluol cariadus i blant sydd ei angen fwyaf. Ar hyn o bryd maent yn maethu 4 o blant yn llawn amser, tymor hir, yn ogystal â magu 4 o blant eu hunain.
“I ni, nid yw’n ymwneud â nifer y plant rydyn ni wedi’u maethu. Mae’n ymwneud â’r gwahaniaeth rydyn ni wedi’i wneud i’r plant rydyn ni wedi’u maethu,” meddai Nici, sydd â 7 o blant yn byw gartref ar hyn o bryd rhwng 6 ac 16 oed.
“Er i ni ddechrau maethu gyda’r bwriad o wneud rhywfaint o ofal maeth seibiant byr yn y lle cyntaf, fe arhosodd ein plentyn maeth cyntaf gyda ni am 8 mlynedd! Ers hynny, rydyn ni wedi dilyn ein calonnau ac wedi gwneud maethu hirdymor yn bennaf, sy’n wirioneddol gweithio i ni fel teulu.
“Gyda maethu hirdymor rydym yn teimlo y gallwn roi rhywfaint o sefydlogrwydd i'r plant a rhoi profiad teuluol iawn iddynt. Mae’n golygu bod y plant yn dod yn rhan o’n teulu ni, a ninnau eu teulu nhw.
“Mae angen gwreiddiau ar bob plentyn. Mae angen cariad arnynt ac mae angen iddynt deimlo eu bod yn perthyn. Trwy faethu, ni waeth pa fath o faethu a wnewch, gellir cyflawni hynny.”