Cadeirydd Cyngor Gwynedd 2024/25
Dyddiad: 14/05/2024
![Cadeirydd-2](/CachedImage.axd?ImageName=%2fLlyfrgellLluniau%2fLluniauNewyddion%2f2024%2fMai-2024%2fCadeirydd-2.jpg&ImageWidth=300&ImageHeight=300)
Y Cynghorydd Beca Roberts, Cadeirydd Cyngor Gwynedd a’r Cynghorydd Ioan Thomas, Is Gadeirydd Cyngor Gwynedd
Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ar 9 Mai, etholwyd Y Cynghorydd Beca Roberts (Tregarth a Mynydd Llandygai) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd a'r Cynghorydd Ioan Thomas (Menai, Caernarfon) yn Is-Gadeirydd.
Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2022 mae’r Cynghorydd Beca Roberts wedi gwasanaethu ar sawl gwahanol bwyllgor yn ystod y cyfnod hwn.
Wrth gael ei hethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Beca Roberts:
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r flwyddyn sydd i ddod, a byddaf yn gwneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y Cyngor a holl drigolion Gwynedd. Mae hi’n fraint ac anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd.”