Cwblhau prosiect sylweddol i ddiogelu ardal o Fangor rhag effeithiau llifogydd arfordirol

Dyddiad: 24/05/2024

Mae Cyngor Gwynedd wedi cwblhau prosiect gwerth bron i £6 miliwn fydd yn diogelu ardal Hirael ym Mangor rhag effeithiau llifogydd arfordirol ac yn gwella adnoddau hamdden lleol.

Dros y 10 mis diwethaf, mae peirianwyr y Cyngor wedi bod yn gyfrifol am y gwaith i godi waliau a gosod giatiau llifogydd newydd; codi lefel y promenâd a chreu llithrfa newydd; a chreu llwybr beicio ac adnoddau hamdden eraill yn yr ardal.

Bwriad y gwaith yw amddiffyn bron i 200 eiddo domestig a masnachol yn yr ardal hon o Fangor rhag llifogydd arfordirol – problem sy’n debygol o ddwysau wrth i lefel y môr godi a thywydd eithafol ddod i fod yn fwy cyffredin, oherwydd newid hinsawdd.

Ariannwyd y gwaith drwy Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol Llywodraeth Cymru.

Daeth y gymuned at ei gilydd i ddathlu cwblhau’r prosiect ac i ddysgu mwy am y gwaith. Dadorchuddiwyd plac i nodi’r achlysur gan Gadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Beca Roberts.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth: “Mae’r gwaith pwysig yma yn lliniaru rhag perygl llifogydd yn ardal Hirael o Fangor ac mae o fudd i'r gymuned gyfan.

“Dwi’n siŵr bydd pobl leol yn manteisio yn ogystal ar y gwelliannau hamdden sydd wedi eu gwneud yn sgil y gwaith, gan gynnwys creu llwybr newydd i gerddwyr a beicwyr a gosod meinciau newydd o gwmpas y promenâd.

“Mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybr Beicio Cenedlaethol yn mynd ar hyd y promenâd, dafliad carreg o Hirael, felly mae’r prosiect hwn yn gyfle gwych i wella cysylltiadau â’r ddau atyniad pwysig yma.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones: “Unwaith bydd y gwaith o wella’r system garthffosiaeth yn yr ardal wedi ei gwblhau gan Dŵr Cymru, bydd ein swyddogion yn gallu dychwelyd i Lon Traeth i orffen mân waith.”

 Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

 "Roedd yn wych ymweld â chynllun Bae Hirael a fydd yn lleihau'r perygl o lifogydd arfordirol i bron i 200 o gartrefi a busnesau.

 "Cefais weld a’m llygaid fy hun hefyd sut y bydd y cynllun o fudd i'r gymuned drwy greu llwybr teithio llesol, sy'n cysylltu'r llwybr beicio a'r llwybr arfordirol o Eryri drwodd i Bier Bangor.

"Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol i wella seilwaith amddiffyn arfordirol Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf drwy fuddsoddiad ein Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP), gyda gwerth £291 miliwn o fuddsoddiad dros bum mlynedd, ac unwaith y bydd pob un o'r 15 cynllun ledled Cymru wedi'u gorffen bydd o fudd i bron i 14,000 eiddo."

Fel rhan o’r prosiect mae Peirianwyr o Adran Ymgynghoriaeth Cyngor Gwynedd wedi bod i Ysgol Hirael yn ddiweddar i siarad efo’r plant am effeithiau newid hinsawdd ar ein cymunedau a sut mae gwaith peirianyddol, fel y prosiect hwn yn Hirael, yn gallu amddiffyn isadeiledd lleol.

Yn ystod y gwaith, gwnaed gwaith i warchod ffigysbren hynod oedd yn tyfu o’r hen wal fôr yn Hirael drwy ei symud – dan oruchwyliaeth arbenigwyr coedyddiaeth – i lecyn i’r de o faes parcio dwyreiniol Lôn y Traeth.

Nodiadau

Adran YGC Cyngor Gwynedd oedd yn rheoli’r prosiect ac yn darparu cymorth dylunio. Penodwyd cwmni Griffiths Construction i wneud y gwaith ar y safle.

Dilynwyd mesurau amgylcheddol llym drwy gydol y broses adeiladu a chafwyd trwydded forol ar gyfer y gwaith gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae mwy o wybodaeth a lluniau drwy gydol y prosiect ar gael ar-lein: https://hirael.ygc.cymru/