Gwynedd i arwain prosiect cenedlaethol ar gyfer llyfrgelloedd

Dyddiad: 16/05/2024
Bydd gwasanaethau llyfrgell ar draws Cymru yn cael eu trawsnewid o ganlyniad i system newydd sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan Gyngor Gwynedd.

 

Bydd hyn yn golygu y bydd un system ar gael ynghyd ag ap i bori catalog llyfrau a llyfrau llafar, yn ogystal ag archebu neu adnewyddu eitemau, a fydd yn sicrhau ein bod yn datblygu cynnig o ansawdd i bawb.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Economi: "Mae'r system newydd i bob pwrpas yn llwyfan digidol cenedlaethol i Lyfrgelloedd yng Nghymru, ac mae'n brosiect uchelgeisiol a gwirioneddol arloesol yr ydym yn falch iawn o fod yn ei arwain."

 

"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru o £900,000 i ariannu'r system a fydd yn cael ei chyflwyno i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Yn ogystal â dod â gwelliannau enfawr i ddefnyddwyr llyfrgelloedd, bydd hefyd yn cynnig arbedion cost oherwydd ei fod yn lleihau'r dyblygu sy'n gysylltiedig â rheoli gwahanol systemau llyfrgell ledled Cymru, ac yn caniatáu i lyfrgelloedd argymell llyfrau i ddaefnyddwyr eu darllen ac yn y pen draw, rhannu stoc â'i gilydd yn fwy effeithlon.

 

Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Gwynedd, ac arweinydd y prosiect: "Mae llyfrgelloedd yn sicrhau bod gwybodaeth a diwylliant o fewn cyrraedd pawb, ond maen nhw hefyd yn gwneud llawer mwy na hynny. Maent yn darparu mynediad i e-adnoddau a gwasanaethau cludo i’r cartref sy'n arbennig o werthfawr i'r rhai nad ydynt yn gallu ymweld a’u llyfrgell, yn ogystal â mynediad at gyfrifiaduron ac argraffu cwmwl, a chymorth hefyd i gyfeirio pobl at wasanaethau o bob math, sy'n arbennig o werthfawr ar adeg pan mae llawer yn cael trafferth gyda chostau byw."

 

"Rydym hefyd yn darparu lleoliad croesawgar ar gyfer ystod eang o adnoddau, gan gynnwys Darllen yn Well a llyfrau iechyd a lles. Mae llyfrgelloedd hefyd yn darparu ystod eang o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu, gan annog llythrennedd blynyddoedd cynnar trwy amseroedd rhigwm babanod ac amseroedd stori teuluol, clybiau darllen a mannau croeso cynnes.

 

"Mae llyfrgelloedd hefyd yn cynnig gwasanaeth cludo ar-alw i’r cartref, sy'n helpu i gysylltu cymunedau a mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol."

 

Gan fod gofyniad i dendro am system newydd, penderfynodd cynghorau ledled Cymru gydweithio i gyflwyno'r system newydd yn cynnwys cynnal tim datblygu sytstem canolog, a chytunodd Gwynedd i weithredu fel Awdurdod Arweiniol ar y prosiect trawsnewidiol hwn.

 

Unwaith y bydd ar waith, bydd y system newydd yn galluogi gwasanaethau llyfrgell i gydweithio ar ddatblygiadau eraill yn y dyfodol, megis un cerdyn llyfrgell ar gyfer Cymru.

 

Bydd y system newydd yn dod i rym yn 2024.

 

Nodiadau: 

Buddsoddiad o dros £900,000 mewn platfform llyfrgell ddigidol i Gymru | LLYW.CYMRU