Hwb economaidd wrth i gronfa ARFOR gyrraedd carreg filltir o £2 filiwn

Dyddiad: 15/05/2024
Mae tri deg o brosiectau arloesol ar draws gogledd a gorllewin Cymru wedi sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o dros £2 filiwn drwy Gronfa Her ARFOR.

Sefydlwyd y gronfa i dreialu atebion newydd ac arloesol i heriau sy’n bodoli yn ardal ARFOR, sy’n cwmpasu Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr.

Gyda ffocws ar ddod â sefydliadau ynghyd i arloesi, cydweithio a datrys heriau lleol a rhanbarthol, ac i dreialu syniadau a all ddod yn endidau masnachol yn y tymor hir, nod Cronfa Her ARFOR yw sicrhau bywiogrwydd economaidd cymunedau a galluogi pobl i fyw a gweithio yn yr ardaloedd hynny.

Mae’r prosiectau llwyddiannus bellach yn cwblhau’r rhaglen, gyda phob un yn dangos angerdd dros gadarnleoedd y Gymraeg, gyda ffocws ar ysgogi twf economaidd. Mae’r tri deg prosiect a dderbyniodd gyllid yn amrywio’n fawr, o atebion digidol arloesol sydd â’r nod o gefnogi’r iaith mewn busnes; ymgyrch i ddenu’r graddedigion gorau yn ôl i Gymru; hyd at brosiectau sector-benodol ym meysydd chwaraeon, ffermio, a gofal plant.

Un o ymgeiswyr llwyddiannus y prosiect yw M-SParc ar Ynys Môn. Mae ei brosiect (Rhwydwaith Cymry Llundain) wedi ei gymeradwyo o dan y Gronfa Her Fach. Dywedodd Lois Bevan Shaw o M-SParc, “Rydyn ni wrth ein bodd gyda chanlyniad ein cais i’r Gronfa Her Fach. Er ein bod yn frwd dros gadw pobl ifanc yn ein hardal, rydyn ni hefyd yn cydnabod bod nifer o bobl sydd wedi symud i ffwrdd bellach eisiau dychwelyd adref.

“Gyda’n prosiect ni, rydyn ni’n ei gwneud hi’n haws i’r 1,500 aelod o Rwydwaith Cymry Llundain gael mynediad at wybodaeth a chymorth i ddychwelyd i’r ardal, naill ai i ddechrau busnes newydd neu chwilio am gyfleoedd buddsoddi ar hyd a lled y rhanbarth.”

Un o’r ymgeiswyr llwyddiannus eraill sy'n elwa o’r Gronfa Her yw’r cwmni cyfieithu o Gaernarfon, Cymen Cyf. Gyda chyllid gan y Gronfa Her Fawr, bydd y prosiect yn casglu data model megis ffeiliau llais a thestun Cymraeg i gynhyrchu banc o ddywediadau sain yn Gymraeg.

Dywedodd Cyfarwyddwr cwmni Cymen Cyf, Aled Jones, “Rydyn ni’n edrych ymlaen at wthio ffiniau technoleg llais trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’n prosiect Cronfa Her. O ran datblygu economaidd, bydd modd defnyddio’r model iaith y byddwn yn ei chreu i siarad â dyfeisiau personol, i drawsgrifio ac i greu lleisiau synthetig. Bydd y data ar gael yn agored i unrhyw un sydd am ei ddefnyddio.

 “Mae’n wych y bydd y prosiect hefyd yn helpu i sbarduno cydweithio ar draws y rhanbarth. Byddwn yn manteisio ar arbenigedd yr Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd yn cydweithio â Stiwdiobox yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin, gwefan Y Pod a chynhyrchwyr podlediadau i rannu gwybodaeth am ochr fwy technegol recordio lleisiau.”

Mae ARFOR yn fenter ar y cyd rhwng awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae bellach yn ail gam ei weithgarwch, a fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2025, wrth iddo geisio defnyddio datblygu economaidd fel modd o gefnogi a chynnal y Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg - Llywodraeth Cymru, “Mae ffyniant economaidd ein cymunedau Cymraeg yn hollbwysig i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r iaith; ac mae’n braf gweld busnesau a grwpiau cymunedol yn cydweithio er mwyn cynnig cyfleoedd i arloesi yn ei chadarnleoedd. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y prosiectau peilot hyn yn datblygu dros y misoedd nesaf.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, "Mae'r ystod amrywiol o brosiectau yn hynod addawol, ac yn dangos y gallu entrepreneuraidd a thalent sy'n gynhenid yn rhanbarth ARFOR. Braf iawn yw gweld mentrau yn llwyddo ym mhob un o’r pedair sir ac rwyf yn edrych ymlaen at ddilyn y prosiectau wrth iddynt ddatblygu.

“Ein nod yw atal yr all-lif o bobl sy’n gadael ein hardaloedd, gan gydnabod yr effaith andwyol y mae'n ei chael ar y Gymraeg a’r gymdeithas yn gyffredinol. Yng Ngwynedd rydym eisoes yn profi heriau oherwydd y draen dawn, ond, drwy fod yn gadarnhaol ac yn arloesol mae cyfle i ni amlygu potensial yr ardal. Dyma le gwych i fyw a gweithio, ac rydym am roi’r cyfle gorau i bobl nid yn unig aros, ond hefyd ddychwelyd i’w gwreiddiau.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Mae’n dda gweld cymaint o gynlluniau newydd arloesol yn digwydd ar draws y rhanbarth mewn ymateb i gyfleoedd a heriau sy’n wynebu ein cymunedau.”

Yn ogystal, mae prosiectau yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin hefyd wedi bod yn llwyddiannus.

Mae cwmni Goiawn, o Sir Gâr, hefyd wedi bod yn llwyddiannus gyda'u prosiect Antur Amser - pecyn addysgol VR i blant. Dywedodd Osian Evans, Cyfarwyddwr Goiawn, “Rydyn ni’n cydnabod yr her mae addysg Gymraeg yn ei hwynebu yn yr oes ddigidol, lle mae’r cyfryngau Saesneg yn dominyddu. Gydag Antur Amser, ein nod yw chwyldroi llythrennedd Cymraeg gyda rhaglen ddeniadol, o’r radd flaenaf sy’n plethu hud adloniant i fyd addysg. Mae ein dull yn integreiddio’r dechnoleg ymdrochol ddiweddaraf i wneud dysgu’n brofiad deinamig a rhyngweithiol, gan sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu mewn ystafelloedd dosbarth modern a thu hwnt.”

Mae’r asiantaeth prosiectau creadigol Sgema, sydd wedi’i lleoli yng Ngheredigion, yn edrych yn rhyngwladol i gysylltu busnesau o bob rhan o’r rhanbarth. Mae’n gweithio gyda’r sefydliad aelodaeth Cymry alltud, Global Welsh. Dywedodd Meilyr Ceredig, Cyfarwyddwr Sgema, "Mae Hyb Cysylltwr Global Welsh ARFOR yn ceisio cysylltu busnesau lleol â'r rhwydwaith eang o Gymry alltud ar draws y byd. Trwy'r rhwydwaith, ein nod yw creu cyfle unigryw ar gyfer twf, arloesi a chyfnewid diwylliannol ynghyd â manteisio ar y Gymraeg fel ased economaidd strategol. Mae’r Hyb Cysylltwr yn ofod digidol lle gall cymuned o entrepreneuriaid Cymreig ledled y byd ymgysylltu, rhannu a chydweithio i ysgogi llwyddiant rhanbarthol a byd-eang."

Mae Cronfa Her ARFOR yn cael ei redeg gan Menter a Busnes a Menter Môn ar ran Llywodraeth Cymru.

 

DIWEDD -----

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sara Davies, Rheolwr Prosiectau Arloesedd a Thŵf Busnes, sara.davies@menterabusnes.co.uk

 

Prosiectau Cronfa Her ARFOR

Isod ceir crynodeb byr o’r tri deg prosiect llwyddianus.

 

Gwynedd

  • Cymen: Datblygu Technoleg Adnabod Lleferydd Cymraeg.
  • Sain / Oleia: Canolfan Sain: Datblygu gofod digidol a ffisegol; Cadw a digideiddio catalog Sain mewn modd cynaliadwy, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn hygyrch i genedlaethau’r dyfodol.
  • Prifysgol Bangor: Cynllun ymchwil Heriau recriwtio staff dwyieithog.
  • Cwmni Bro Antur Aelhaearn: Prosiect tai a iaith Antur Aelhaearn: Model perchnogaeth tai leol sy’n rhannu dysgu, peilota a gwersi ar draws ardal ARFOR.
  • Adra: Cynllun Gwella sgiliau’r sector adeiladu i fanteisio ar gontractau fframweithiau ôl-osod er budd busnesau bach a chanolig.
  • Pennotec: Gwasanaeth Trap Algâe gan fusnes biotechnoleg amgylcheddol. Cynllun sy’n datblygu a phrofi dull arloesol o gael gwared ar halogiad algâu o byllau yn rhanbarth ARFOR.
  • Adain: Normaleiddio’r Gymraeg mewn Marchnata Digidol.  Cynllun sy’n helpu busnesau o fewn ardal ARFOR i gryfhau eu presenoldeb digidol yn Gymraeg a chreu perthnasau gyda busnesau eraill.
  • Prifysgol Bangor: ARFer: Ap sydd wedi’i ddatblygu i gefnogi unigolion a grwpiau i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg yn y gwaith.
  • Asiannt Cyf: Hwyluso darparwyr gofal plant cymunedol ac addysg gynnar (BC) cyfrwng Cymraeg/dwyieithog i wella a datblygu safon eu darpariaeth yn unol â gofynion yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru, gan hyrwyddo a chynnal recriwtio a chadw’r gweithlu lleol, gan arwain at gynnydd mewn sefydlogrwydd a thwf busnes.

 

Ynys Môn

  • M-SParc: Rhwydwaith Cymry Llundain: Cynllun sy’n rhoi cyfle i M-SParc a’r rhanbarth i amlygu’r cyfleoedd sydd ar gael ar draws Ardal ARFOR i gymuned Cymry Llundain.
  • HAIA / M-SParc: Gwlad y Gemau: Cynllun i adfywio'r Gymraeg drwy arloesedd Esports a thechnoleg iaith.
  • MySparc: Porth digidol (ar ffurf Ap) fydd yn dod ag eco-system fusnes, menter, academia, myfyrwyr a buddsoddwyr at ei gilydd mewn un lle i greu cymuned Arloesi ARFOR.
  • M-SParc: Academi Iaith a Gwaith: Cynllun cyflogaeth sy’n cynnig gwaith o safon i bobl leol sy’n rhoi’r cyfle iddynt ddysgu neu wella a defnyddio’r iaith Gymraeg.  Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau tra’n cyflogi; a chreu gofodau Cymraeg.

 

Ceredigion

  • Sgema Cyf: GlobalWelsh: Datgloi potensial Cymry alltud ARFOR - Creu cymuned ddigidol ‘Gofod Cymraeg’ (Sir Gâr a Cheredigion) i gwmnïoedd sydd wedi’i rhwydweithio’n fyd-eang & mapio cwmnïoedd eraill all fanteisio o’r ardal. Ffocws ar gynyddu gwerth economaidd cwmnïoedd  fel atyniadau i fuddsoddiadau a syniadau newydd cydweithredol. Partneriaeth â GlobalWelsh.
  • Fflach: Trosglwyddo cwmni Fflach oedd yn blatfform i gerddorion Cymraeg i fod yn gwmni cymunedol.
  • Hybu Cig Cymru: Datgarboneiddio Cig Eidion: Gwaith ymchwil sy’n canolbwyntio ar werthuso a dangos cyfleoedd ariannol ac amgylcheddol o fabwysiadu arferion newydd o gynhyrchu cig eidion, yn ogystal ag addysgu ffermwyr am effeithiolrwydd cynhyrchu cig eidion.
  • Tan y Graig: Blas ar Gymru: Cynllun sy’n creu profiad Cymreig hollol unigryw a fydd yn dathlu diwylliant a thraddodiadau Cymru.
  • Golwg: Ymestyn y gwefannau bro ar draws ARFOR:Cynllun sy’n cynnal ymchwil yng nghymunedau Sir Gâr a Gwynedd (namyn Arfon) a fyddai’n archwilio’r galw.
  • Theatr Gydweithredol Troed-y-Rhiw: Cynllun sy’n gwahodd 10 cyw-ddramodydd am benwythnos preswyl i gael cyfle ac ysbrydoliaeth i ysgrifennu. Bydd cyfle iddynt gael eu mentora am gyfnod o 3 mis i fireinio eu crefft, cyn cynhyrchu dramâu gwreiddiol i’w cyhoeddi ar blatfform ar-lein, y Llyfrgell Ddramâu erbyn diwedd y flwyddyn.
  • Rupert Allan: Prosiect i broffilio blaenoriaethau diwylliannol a busnes ar y map ar-lein cyhoeddus (OpenStreetMap) gan adeiladu ar fwyd, ffermio a thwristiaeth ddiwylliannol fel Archif Gymunedol ddeinamig.

 

Sir Gâr

  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: IAITH GWEITHLE, IAITH GWEITHLU: Cynllun sy’n dadansoddi defnydd y Gymraeg mewn gweithleoedd a gan y gweithlu yn siroedd ARFOR.
  • Go Iawn: Antur Amser: Pecyn addysgol ar ffurf gem VR i blant ysgol.
  • Tetrim Teas: Tyfu Iaith, Tyfu Madarch, Tyfu Partneriaeth: Cynllun sy’n rhoi’r cyfle i dair o gymunedau difreintiedg yng ngorllewin Cymru i fanteisio ar brofiad ac arbenigedd cwmni Madarch Cymru.
  • Iaith - Cadernid Iaith: Prosiect sy’n datblygu a pheilota hyfforddiant Cadernid Iaith (Linguistic Assertiveness) ar gyfer y maes gofal babanod a phlant ifanc.
  • Theatr Genedlaethol Cymru: Cynllun sy’n datblygu ac ailfywiogi'r gweithlu theatr dechnegol yng ngorllewin Cymru ac yn genedlaethol. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael lleoliad gwaith 6 mis o hyd.

 

Tu allan i ARFOR

  • Darogan Talent: Denu graddedigion i ardal ARFOR: Cynllun peilot sy’n canolbwyntio ar ddenu myfyrwyr a graddedigion diweddar sy’n astudio y tu allan i Gymru i’r rhanbarth drwy roi gwybod iddynt am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael yno, a thrwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i fyfyrwyr y tu allan i Gymru.
  • Llais Cymru: Ffenest Siop: Gwefan ‘Ffenest Siop’ sy’n sicrhau bod unrhyw un sydd eisiau derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg, yn gallu dod o hyd i fusnesau a gwasanaethau sy’n cynnig hyn o fewn ardaloedd ARFOR.
  • Mentrau Iaith Cymru: Cynllun sy’nysgogi mentergarwch Cymry Cymraeg yn y maes hamdden a chwaraeon.
  • Undeb Rygbi Cymru: Cynllun sy’n normaleiddio a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar lawr gwlad ac yn y byd busnes drwy gynnig gweithdai cyfrwng Cymraeg. Cynllun peilot sy’n creu cysylltiadau cryfach rhwng clybiau rygbi, busnesau lleol a’u perthynas gyda’r Gymraeg sydd yn arwain at fudd economaidd.
  • Alaw / Cymdeithas Bêl-Droed Cymru: Cyfres o ddigwyddiadau ym mhob un siroedd rhanbarth ARFOR sy'n efelychu diwylliant CBDC a’r Wal Goch, gan gynnwys dwyieithrwydd, cynwysoldeb a chysylltiad gyda’r gymuned fusnes.