Cyfle i ennill £100 am y pethau bychain
Dyddiad: 08/03/2023
Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni mae Prosiect15 Cyngor Gwynedd wedi lansio cystadleuaeth yn annog pobl o bob oed ac o bob man i lunio cynnwys digidol ar y thema ‘Y Pethau Bychain’. Y nod yw cael toreth o fideos a reels a deunydd tebyg, heb fod yn hirach na 15 eiliad, i hyrwyddo prif amcanion Prosiect15 sef trafod y byd a’i bethau, yn Gymraeg. Mae tair gwobr o £100 yr un i’w hennill.
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, sylfaenydd y prosiect: “Mi rydan ni’n gweld deunydd digidol, arloesol a chreadigol iawn yn dod dan ein trwynau bob dydd wrth i ni ddefnyddio gwefannau cymdeithasol. Mae’r fideos a’r ‘reels’ hyn yn cynnig gogwydd gwahanol o’r byd a ‘i bethau. Braf fyddai gweld pethau fel hyn yn Gymraeg ochr yn ochr ag ieithoedd a diwylliannau eraill y byd.”
Mae’r Prosiect 15 yn defnyddio’r rhif 15 fel sylfaen neu thema i weithgareddau ac yn barod mae’r prosiect wedi cyhoeddi fideos 15 munud, gyda nifer o bobol broffesiynol yn trafod y cyswllt rhwng diwylliant, gwahanol agweddau ar fusnes, yr amgylched ac ynni adnewyddol. Mae’r fideos hynny i’w gweld ar sianel YouTube Prosiect15. Ond y tro hwn fideos byrrach a mwy bachog yw’r syniad i ysgogi trafodaeth.
Ychwanegodd y Cynghorydd Craig ab Iago: “Tipyn o ddifyrrwch ydi’r gystadleuaeth hon ond eto’n rhywbeth i wneud i ni feddwl am y byd o’n cwmpas a’n lle ni yn y byd hwnnw. Felly ewch amdani ac anfonwch eich syniad chi o be ydi’r ‘pethau bychain’ atom ni!”
Mae mwy o fanylion am y gystadleuaeth ar wefan Cyngor Gwynedd: Cystadleuaeth y Pethau Bychain (llyw.cymru) Neu drwy ddilyn Prosiect15 ar Twitter, Facebook, Instagram a TikTok