Sesiwn galw mewn yng Nghanolfan Dolfeurig, Dolgellau

Dyddiad: 22/03/2023

Bydd Gwasanaeth Anabledd Dysgu Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn galw mewn yng Nghanolfan Dolfeurig, Dolgellau rhwng 10am a 2pm ar ddydd Gwener, 24 Mawrth i rannu gwybodaeth a chasglu sylwadau am gynlluniau diweddaraf a gweledigaeth ehangach y Cyngor ar gyfer yr hwb.

Bydd y sesiwn yn gyfle i unigolion sydd yn gyfarwydd gyda gwasanaethau Dolfeurig, eu teuluoedd ac aelodau o’r gymuned leol i daro golwg ar y cynlluniau, holi’r penseiri a chael sgwrs gydag Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ac Uwch Swyddogion o Wasanaeth Anabledd Dysgu'r Cyngor.

I’r rheini sydd methu mynychu’r digwyddiad ar y diwrnod, yna mae modd derbyn copi digidol neu bapur o’r cynlluniau drwy e-bostio: gcgc@gwynedd.llyw.cymru  Bydd angen dychwelyd sylwadau erbyn 31/03/23.

Felly dewch draw i Ganolfan Dolferuig (Lôn Bopty, Dolgellau, LL40 1EL) unrhyw bryd rhwng 10am a 2pm ar ddydd Gwener, 24 Mawrth os ydych gyda diddordeb yn y datblygiad.