Ysgol newydd i Bontnewydd: Cyngor Gwynedd yn croesawu buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru

Dyddiad: 24/03/2023

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am fuddsoddiad o bron i £12 miliwn er mwyn codi ysgol newydd sbon yn Y Bontnewydd ynghyd ag adnoddau cymunedol o’r radd flaenaf.  Bydd ei chynllun, ei hadeiladwaith a'r elfennau o'i chwmpas yn adlewyrchu dyheadau Cyngor Gwynedd i fod yn arloesol, yn flaengar, yn gyfoes ac yn amgylcheddol gyfeillgar.

 

Bydd y Llywodraeth, drwy ei gystadleuaeth Her Ysgolion Cynaliadwy, yn darparu’r holl gyllid ar gyfer adeiladu’r ysgol fydd yn galon i’r gymuned,

 

Bydd yr ysgol newydd yn fwy o ran ei maint gan wneud yr amgylchedd dysgu yn brafiach i’r holl ddisgyblion a staff ac yn addas ar gyfer anghenion Cwricwlwm i Gymru.  Bydd cyfleusterau cymunedol megis neuadd, gofod swyddfa a phwyntiau gwefru ceir yn rhan o’r prosiect hefyd.

 

Bydd ethos gwyrdd ac ecogyfeillgar i’r ysgol newydd; bydd ganddi gysylltiadau teithio llesol o’r radd flaenaf gan alluogi i’r rhan fwyaf o ddisgyblion naill ai gerdded neu seiclo i’w dosbarthiadau yn ddiogel a chyswllt â Lôn Eifion.  Bydd yr adeilad yn gwneud defnydd o ynni adnewyddol ac yn gynaliadwy, gyda gwaith cyffrous ar y gweill i ail-ddefnyddio cymaint ag sy’n bosib o ddeunyddiau gwreiddiol yr ysgol gan leihau cylch bywyd carbon yr adeilad newydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rwyf yn llongyfarch pawb fu’n gyfrifol am lunio’r cais. Dyma un o ddim ond tair ysgol trwy Gymru gyfan a’r unig un yn y gogledd sydd wedi llwyddo i ennill y buddsoddiad hwn. Mae’n fater o falchder fod Llywodraeth Cymru wedi dewis Ysgol Bontnewydd o’r holl geisiadau a dderbyniwyd o bob cwr o’r wlad.

 

“Rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld y gwaith yn dechrau ac i weld plant lleol yn cael budd addysgol a chymdeithasol o’r ysgol fydd yn darparu cyfleusterau addysgol a chymunedol hygyrch a gwyrdd.

 

“Rydw i hefyd yn edrych ymlaen at glywed mewnbwn y plant a’r gymuned drwy gydol y broses o sefydlu’r ysgol newydd. Bydd cyfle i ddisgyblion Ysgol Bontnewydd i fod yn rhan o’r broses ddylunio a bydd cyfleoedd cyffrous iddynt ddysgu am waith adeiladu, pensaernïaeth a chynaladwyedd.

 

“Ers agor y ffordd osgoi newydd, mae disgwyl i fwy o deuluoedd symud i’r pentref i fyw, felly mae sicrhau gofod digonol ar gyfer y twf posib mewn niferoedd plant yn rhan hollbwysig o’r cynllun.”

Ychwanegodd Garem Jackson, Pennaeth Adran Addysg Cyngor Gwynedd: “Bydd yr ysgol a’i hadnoddau newydd yn galluogi’r staff i gyflwyno addysg o’r safon uchaf i’r plant yn ogystal â diwallu anghenion y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

 

“Bydd adeilad newydd Ysgol Bontnewydd wedi’i integreiddio â'r amgylchedd lleol, yn dathlu cysylltiad gyda natur a’r amgylchedd gan wneud y mwyaf o ddeunyddiau naturiol a hanes diwydiannol lleol.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Menna Jones, cynghorydd lleol Bontnewydd a Chadeirydd Pwyllgor y Ganolfan fydd yn rhan o’r datblygiad newydd hwn:

 

“Dwi’n siŵr fy mod yn siarad dros drwch pobl leol wrth fynegi fy llawenydd o glywed ein bod am gael ysgol ac adnoddau cymunedol newydd a modern. Fel rhiant i blentyn sy’n ddisgybl yn yr ysgol, gallaf ddweud fod hyn yn newyddion arbennig iawn.

 

“Mae Ysgol Bontnewydd a’r ganolfan wedi bod wrth galon y gymuned ers cenedlaethau ond, fel popeth arall, maent wedi gwisgo gydag amser. Gyda’r buddsoddiad hwn gall teuluoedd yr ardal edrych ymlaen at fwynhau ysgol ac adnoddau cymunedol modern am genedlaethau i ddod.

 

“Diolch o waelod calon i swyddogion Cyngor Gwynedd am roi cais cryf ac ysbrydoledig ymlaen ac i Lywodraeth Cymru am ei gefnogi. Rydw i’n edrych ymlaen at weithio efo’r plant a’r gymuned leol ehangach i ddatblygu’r cynlluniau gwych hyn.”

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, Jeremy Miles:

“Mae ysgolion yn lawer mwy na dim ond brics a morter. Gall adeiladau sydd wedi eu dylunio’n dda chwarae eu rhan er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd, cefnogi staff a dysgwyr gyda’u haddysg, ynghyd â darparu safonau uchel a dyheadau i bawb.

“Mae’r prosiectau hyn yn gyffrous iawn yn ogystal â bod yn sail ar gyfer datblygiadau ysgolion i’r dyfodol. Maent yn cynnig y cyfle i ddysgu am gynaladwyedd, a hefyd yn gyfle i’r dysgwyr fod yn rhan o’r gwaith dylunio a datblygiad yr adeiladau hyn, i siapio'r amgylchedd ble maent yn dysgu ac i ddeall sut bydd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud heddiw yn dylanwadu ar eu dyfodol. 

“Mae dysgu am gynaladwyedd yn fandadol o fewn ein Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mae’r tri chynllun yn rhoi cyfle gwych i ysbrydoli dysgwyr i wireddu bwriad y Cwricwlwm i ddatblygu dinasyddion moesol a gwybodus.”

Bydd gwaith cynllunio a thrafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda’r ysgol a thrigolion Bontnewydd, a’r gobaith yw y bydd yr ysgol newydd yn agor yn ystod 2026.