Cyngor Gwynedd yn cytuno ar gyllideb 2024/25
Dyddiad: 07/03/2024
Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024/25 sy’n adlewyrchu ei ymrwymiad i warchod ysgolion a gwasanaethau i blant a theuluoedd bregus, er gwaethaf yr heriau ariannol dybryd sy’n wynebu cynghorau ar draws Cymru.
Mae’r Cyngor yn rhagweld bydd y costau o gynnal gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi codi oddeutu £22.7 miliwn, ond dim ond £5.1 miliwn o gynnydd welwyd yn yr arian bydd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.
Mae gan Gyngor Gwynedd gyfrifoldeb statudol i osod cyllideb gytbwys, ac mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 7 Mawrth cytunodd aelodau ar gynllun i bontio'r bwlch ariannol drwy gyfuniad o arbedion, toriadau i wasanaethau a chynyddu’r dreth Cyngor.
Cytunodd yr aelodau i weithredu cyfres o arbedion effeithlonrwydd, toriadau i wasanaethau gwerth £5.3 miliwn a chynnydd o 9.54% yn y Dreth Cyngor, sy’n cynnwys ardoll y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r cynnydd yn y Dreth Cyngor yn cyfateb i £2.82 ychwanegol yr wythnos neu £152.89 yn flynyddol ar gyfer eiddo Band D.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd:
“Gallaf ddweud â sicrwydd nad oedd unrhyw un o fy nghyd aelodau yn gyfforddus yn gwneud y penderfyniadau anodd hyn. Ond gwirionedd y sefyllfa ydi fod cyfuniad o ffactorau wedi ein rhoi mewn cornel, a’r unig opsiwn bellach ydi gwario llai ar rai gwasanaethau a chynyddu’r dreth.
“Mae costau dydd-i-ddydd pawb wedi codi’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r un peth yn wir i ni fel Cyngor. Mae pethau fel ynni, yswiriant, deunyddiau crai a chyflogau yn llawer drutach heddiw o’u cymharu a’r adeg yma llynedd.
“Ar yr un pryd, yn anffodus, rydym yn gweld mwy o alw nag erioed am ein gwasanaethau. Mae dros 2,500 yn fwy o gyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol plant Gwynedd na’r cyfnod cyn Covid-19; mae dros 2,000 yn fwy o gyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl y Cyngor dros yr un cyfnod ac mae ein gwariant ar wasanaethau i bobl ddigartref wedi dyblu ers 2021/22.
“Er fod y grant rydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru wedi cynyddu o 2.3% eleni, y gwir ydi fod y cynnydd cyfartalog ar draws y 22 cyngor Cymreig yn 3.3%. Rydym yn un o’r ddau gyngor sy’n derbyn y swm isaf a hynny gan fod ein poblogaeth wedi gostwng yn fwy na’r un awdurdod arall yn y wlad.
“Diwedd y gan yw’r geiniog, a mae’r arian rydym yn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn bell o fod yn ddigon i gwrdd a’r costau sy’n parhau i bentyrru.”
Er gwaetha’r sefyllfa heriol, mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i warchod gwasanaethau addysg a gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer plant a theuluoedd rhag unrhyw doriadau.
Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:
“Diolch i gynllunio ariannol cadarn dros y blynyddoedd, mae Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa ariannol sefydlog o gymharu â nifer o gynghorau eraill. Serch hynny, nid ydym wedi ein hynysu o’r problemau economaidd a chymdeithasol sy’n bwrw gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU ac mae penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud.
“Rydym hefyd yn bryderus iawn fod pethau’n edrych yn ddrwg ar ein cyllidebau am y ddwy flynedd nesaf. Rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod yr argyfwng ac i ariannu cynghorau lleol yn deg.
“Er ein bod wedi cadw’r cynnydd yn Nhreth Cyngor i’r lleiafswm, rydym yn ymwybodol iawn y gallai unrhyw gynnydd achosi anawsterau i aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.
“Hoffem annog unrhyw un sy’n cael trafferth cadw i fyny gyda’u taliadau Treth Cyngor neu filiau eraill i geisio cymorth, mae gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor www.gwynedd.llyw.cymru/cymorthcostaubyw.”