Cyngor Gwynedd yn cael caniatâd i brynu adeilad segur yng Nghaernarfon i'w drawsnewid yn gartrefi i bobl y sir

Dyddiad: 12/03/2024

Bydd Cyngor Gwynedd yn medru darparu cartrefi i hyd at 46 o unigolion a theuluoedd yn dilyn penderfyniad i symud ymlaen gyda phryniant Swyddfeydd y Goron, Penrallt, sydd wedi'i leoli yng nghanol tref Caernarfon i’w drawsnewid yn unedau i bobl leol sydd angen cartref. 

 

Bydd pryniant yr adeilad pum llawr gan Lywodraeth Cymru yn tanlinellu'r angen brys am ragor o unedau i gartrefu pobl yn y Sir. Mae’r adeilad hwn, a fu’n arfer bod yn swyddfeydd i Lywodraeth Cymru yn y dref, wedi bod yn sefyll yn wag am gyfnod estynedig.  

 

Yn erbyn cefndir o 2,300 o geisiadau, sydd gyfystyr a bron i 5,000 o bobl, am dai cymdeithasol yng Ngwynedd, a 63% o drigolion Gwynedd wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai yn y Sir, mae’r pryniant hwn am gyfrannu at nod y Cyngor o ddarparu mwy o gartrefi o safon i bobl leol. 

 

Ers Ebrill 2023, mae 885 o bobl wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd ac mae bron i 250 o aelwydydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety argyfwng anaddas, megis gwestai neu lety gwely a brecwast, gyda’r opsiynau i bobl symud ymlaen i lety parhaol yn gyfyngedig iawn ar hyn o bryd oherwydd diffyg opsiynau tai addas. Yn ogystal, mae’r defnydd o lety argyfwng yn gosod baich ariannol sylweddol ar Awdurdodau Lleol. 

 

Mae’r Cyngor yn anelu i roi bywyd newydd i’r adeilad segur, gan annog twf cymunedol yng nghanol Caernarfon, gweithio tuag at leddfu’r pwysau tai yng Ngwynedd a sicrhau bod y gefnogaeth lawn yn cael ei roi i bobl sydd mewn angen tai.

Mae’r Cyngor hefyd yn bwriadu cynnwys Hwb Gwasanaethau Tai ar lawr gwaelod yr adeilad.  

 

Mae'r cynllun hwn yn adlewyrchu bwriad ehangach y Cyngor i ddarparu mwy o dai o ansawdd uchel trwy ei Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn, gan anelu i sicrhau bod gan bawb yng Ngwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy, o safon yn eu cymunedau eu hunain.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:  

 

“Ers blynyddoedd bellach, mae’r angen am gartrefi wedi bod ar gynnydd yng Ngwynedd. Mae’n rhaid i ni gydnabod impact dynol y ffigyrau hyn — yn enwedig ar les meddyliol a chorfforol y rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau. Nid mater lleol yn unig yw hwn; mae’n duedd genedlaethol ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau nad oes neb yng Ngwynedd yn cael ei adael heb do uwch eu pennau. 

 

“Mae prynu adeilad Penrallt yng Nghaernarfon yn gam hynod o bositif ymlaen. Bydd y safle yn cynnig cartref i’r rheiny sydd mewn angen o dai, tra bydd y Cyngor yno i gynnig cefnogaeth. Ar ben hynny, bydd y datblygiad hwn yn darparu llety o ansawdd uchel i helpu i leddfu’r pwysau ar wasanaethau tai Cyngor Gwynedd. 

 

“Ond cofiwch, dim ond un darn o'r jig-so yw'r datblygiad yma. Mae'r Cyngor yn cymryd camau breision i fynd i'r afael â rhai o achosion yr argyfwng tai trwy ei Gynllun Gweithredu Tai – gan adeiladu mwy o dai, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd ac i ddwylo pobl leol, a darparu mwy o lety i bobl sy'n profi digartrefedd.” 

 

Dywedodd y Cynghorydd Cai Larsen, Aelod Lleol Canol Tref Caernarfon:  

 

“Fel aelod mewn ardal fel Caernarfon lle ceir nifer sylweddol o bobl ar restrau aros am dai, a lle mae’n gyffredin i bobl gael eu hunain yn ddigartref, rwyf yn croesawu’r datblygiad yma ac unrhyw fesur i baratoi darpariaeth a chefnogaeth i’r sawl sydd mewn angen tai.  

  

“Rwyf wedi bod yn poeni am y safle – mae’n flêr ac yn dirywio ac mae’n achosi problemau i bobl sy’n byw yn yr ardal oherwydd ymddygiad gwrth gymdeithasol a phroblemau efo’r system larwm, felly mae gweld cynllun fel hwn yn newyddion da i mi a thrigolion yr ardal.” 

 

Dywedodd Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian: 

 

“Mae adeilad Llywodraeth Cymru yng nghanol tref Caernarfon wedi bod yn wag yn rhy hir ac mae ei gyflwr yn annerbyniol erbyn hyn. Mae’r cynllun newydd yma yn ddefnydd da iawn o’r adeilad a bum yn codi’r syniad ar lawr y Senedd yn y misoedd diwethaf. 

 

“Bydd y cynllun yn darparu unedau byw sydd mawr eu hangen ar gyfer y nifer cynyddol o bobl a theuluoedd sydd yn canfod eu hunain heb do uwch eu pennau. Bydd gwasanaethau cefnogol ar gael yn yr adeilad hefyd.”