Mwynhau atyniadau Gwynedd yn ddiogel y Pasg hwn
Dyddiad: 22/03/2024
Mae’r awdurdodau yng Ngwynedd yn atgoffa pobl sy’n bwriadu ymweld ag atyniadau poblogaidd y sir dros gwyliau’r Pasg i gynllunio o flaen llaw ac i fod yn ystyriol o gymunedau lleol.
Mae gwyliau’r Pasg yn nodi dechrau’r tymor ymwelwyr yng Ngwynedd gyda ardaloedd poblogaidd yn prysuro dros yr wythnosau a misoedd nesaf.
Bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio’n agos gyda partneriaid – gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri – i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol wrth iddynt fwynhau amgylchedd naturiol, golygfeydd bendigedig ac atyniadau gwych Gwynedd.
Rhai o’r prif negeseuon mae’r awdurdodau yn awyddus i gyfleu i bobl sy’n ymweld ydi:
- Cynllunio o flaen llaw – gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich ymweliad a gweithgareddau o flaen llaw er mwyn sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill;
- Parciwch yn gyfrifol – gwiriwch ble mae’r meysydd parcio pwrpasol ac unrhyw drefniadau sydd angen eu gwneud. Mae gwybodaeth am feysydd parcio Cyngor Gwynedd a y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/parcio Os ydych yn parcio ar hyd yr arfordir, gwiriwch amseroedd y llanw cyn gadael eich car.
- Trafnidiaeth gyhoeddus – os yw’n bosib, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn torri lawr ar dagfeydd a phroblemau parcio mewn ardaloedd poblogaidd, ac er budd yr amgylchedd. Mae amserlenni bws Gwynedd, gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa, ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/bws
- Parchwch ein cymunedau – byddwch yn ystyriol o’r amgylchedd a nodwch unrhyw reoliadau neu arwyddion rhybydd lleol. Er enghraifft gwaredwch o’ch sbwriel yn gyfrifol trwy naill ai ei roi mewn bin cyhoeddus neu fynd ag ef adref, dylai perchnogion cwn bob amser godi a gwaredu llanast eu hanifail anwes.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld niferoedd mawr o bobl yn ymweld â llecynnau poblogaidd yma yng Ngwynedd.
“Mae pobl o bell ac agos yn tyrru i Wynedd i fwynhau’r hyn sydd gennym i’w gynnig, felly rydym yn annog pobl i gynllunio’u hymweliad a gweithgareddau ymlaen llaw; i ddefnyddio’r meysydd parcio priodol a manteisio ar y cyfle i ddefnyddio gwasanaethau bws sydd ar gael i grwydro’r ardal.
“Bydd amserlen tymor yr haf gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn dechrau ar 23 Mawrth, sy’n golygu bydd bysus yn rhedeg yn amlach. Mae’r gwasanaeth gwych hwn – a enwebwyd ar gyfer dwy wobr llynedd – yn cysylltu llwybrau poblogaidd Yr Wyddfa a’r trefi a’r pentrefi cyfagos. Mae hyn yn galluogi pobl i adael eu cerbydau yn y meysydd parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri heb boeni am ddod o hyd i le addas i barcio wrth droed y mynydd.
“Fel Cyngor rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i fonitro’r tueddiadau parcio. Mae staff Cyngor Gwynedd – ynghyd â staff y Parc Cenedlaethol a swyddogion Heddlu Gogledd Cymru – yn cydweithio i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ar y ffyrdd, a gofynnwn i drigolion a phobl sy’n ymweld i gadw hyn mewn cof wrth ymweld â’r ardal a’u trin gyda pharch a charedigrwydd bob amser.
“Mae’n bwysig fod ein ffyrdd yn glir er mwyn sicrhau llif traffig, ac wrth gwrs i ganiatáu’r gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith. Gofynnwn felly i fodurwyr barchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel.
“Ein neges ydi i fodurwyr barcio yn synhwyrol. Os bydd angen, bydd swyddogion yr Heddlu a’r Cyngor yn defnyddio eu pwerau i gymryd camau priodol i symud cerbydau sydd yn parcio’n anghyfreithlon, a hynny er diogelwch y cyhoedd.”
Ychwanegodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri:
“Da ni wir eisiau i bawb fwynhau yr holl sydd gan Eryri i’w gynnig ond rydym yn annog pawb i wneud hynny mewn ffyrdd gynaliadwy. Mae’n hanfodol i bawb gynllunio eu hymweliadau o flaen llaw, gwneud y defnydd gorau o’r cynnydd mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a pharchu’r egwyddor o pheidio gadael unrhyw ôl o’ch hymweliad.
“Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i ymgyfarwyddo a’r Côd Cefn Gwlad a dilyn yr argymhellion er mwyn gwarchod tirweddau, cymunedau a bioamrywiaeth unigryw y Parc Cenedlaethol.”
Meddai’r Prif Arolygydd Lisa Jones, Heddlu Gogledd Cymru: “Wrth i ni fentro i’r Gwanwyn, rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn cychwyn mentro allan i fwynhau golygfeydd godidog Eryri, fodd bynnag, gyda hyn mewn cof, rydym unwaith eto yn annog pobl i fod yn gyfrifol.
“Dylai modurwyr sy’n dod i’r ardal feddwl ble maent yn parcio ac i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau parcio a theithio sydd ar gael. Mae hwn yn cynnwys gwneud defnydd o’r gwasanaeth bws wennol newydd sy’n cael ei ddarparu.
“Fe wnawn barhau i gydweithio’n agos efo’n partneriaid er mwyn helpu lleihau’r risg i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill. Mae’r parcio anghyfrifol a pheryglus yr ydym wedi’i weld yn flaenorol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn annerbyniol. Nid yn unig yn peryglu bywydau ond hefyd yn atal mynediad brys i gerbydau, gan gynnwys mynediad i Dimau Achub Mynydd.”
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am gynllunio ymlaen llaw ar wefannau Eryri Mynyddoedd a Mor: www.ymweldageryri.info/cy/cynllunio-eich-ymweliad a Pharc Cenedlaethol Eryri: https://eryri.llyw.cymru/ymweld/cynllunio-eich-ymweliad/canllawiau/