Cyngor Gwynedd yn croesawu adroddiad Estyn yn dilyn arolygiad o wasanaethau addysg
Dyddiad: 20/09/2023
Mae Cyngor Gwynedd yn croesawu adroddiad cadarnhaol gan Estyn – yr arolygwyr addysg cenedlaethol – ar ansawdd gwasanaethau addysg yr Awdurdod Lleol i blant a phobl ifanc.
Yn yr adroddiad, mae’r arolygwyr yn datgan mai nod arweinwyr Cyngor Gwynedd yw sicrhau’r cychwyn gorau i blant a phobl ifanc y sir ac mae addysg yn flaenoriaeth glir yng nghynlluniau’r Cyngor. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw mai’r egwyddor o roi anghenion trigolion lleol wrth galon eu gwaith sy’n gyrru swyddogion addysg a staff dysgu’r awdurdod.
Cyhoeddwyd yr adroddiad yn dilyn arolygiad manwl o drefniadau a gweithdrefnau addysg Gwynedd ar bob lefel, gan gynnwys dadansoddi data, ymgynghori gyda swyddogion ac aelodau etholedig y Cyngor, ac edrych ar ganlyniadau arolygon barn a gynhaliwyd gyda disgyblion a’u teuluoedd.
Rhai o uchafbwyntiau’r adroddiad yw:
- Mae hybu’r iaith Gymraeg yn flaenoriaeth amlwg i’r awdurdod a’r gwasanaeth addysg, cyfeirir at -
o y buddsoddiad helaeth er mwyn rhoi addysg a phrofiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i holl blant a phobl ifanc y sir,
o llwyddiant y canolfannau trochi,
o ystod o adnoddau gwerthfawr cyfrwng Cymraeg mae staff yr awdurdod wedi’u datblygu, yn arbennig felly’r adnoddau Cymraeg ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a’u teuluoedd.
- Mae’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol wedi cryfhau dros y blynyddoedd diwethaf.
- Cyfeirir at y berthynas gynhyrchiol rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE, sef gwasanaeth effeithiolrwydd a gwella ysgolion rhanbarthol y gogledd.
- Mae lles plant a phobl ifanc Gwynedd yn elwa o’r gefnogaeth a gynigir gan Wasanaeth Ieuenctid Awdurdod Addysg Gwynedd.
- Mae’r awdurdod yn darparu arlwy eang o gyrsiau ôl-16 sydd yn ymateb i anghenion ieithyddol ac economaidd y sir.
- Mae enghreifftiau cadarnhaol o arweinwyr yn rhoi ar waith strategaethau buddiol sydd wedi arwain at welliannau, gan gynnwys strategaeth ddigidol, y gwaith o foderneiddio ysgolion a chryfhau’r ddarpariaeth drochi.
Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Beca Brown:
“Mae’r adroddiad hwn gan Estyn yn hynod bositif ac rwy’n ddiolchgar i’r arolygwyr am eu gwaith trylwyr. Mae’n destun balchder i weld y cynnydd sylweddol sydd wedi bod yn ein gwasanaethau addysg ers yr arolygiad diwethaf yn 2013 a dymunaf longyfarch pob aelod o staff sy’n cyfrannu at addysg plant y sir am eu hymrwymiad i’n pobl ifanc.
“Mae ansawdd yr addysg a’r profiadau amrywiol mae ein plant a’n pobl ifanc yn eu cael naill ai yn yr ystafell ddosbarth neu mewn gweithgareddau ychwanegol yn eu grymuso er mwyn gallu cyrraedd eu llawn botensial, i gyfrannu at gymdeithas ac i fanteisio ar holl gyfleon bywyd wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Felly does dim dwywaith yn fy meddwl i pa mor bwysig ydi sicrhau fod ein cyfundrefn addysg yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig a beth allwn ei wneud i’w wella.
“Rydw i’n hynod falch o’r ganmoliaeth mae Estyn hefyd yn ei roi i’r amser, adnodd ac egni mae Cyngor Gwynedd yn ei fuddsoddi i hybu’r iaith Gymraeg gyda holl blant Gwynedd yn cael mynediad i addysg a phrofiadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw penodol drwy astudiaeth achos at y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud i ddatblygu deunyddiau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac at ein Canolfannau Iaith sydd nid yn unig yn trochi newydd ddyfodiaid yn yr iaith ond hefyd yn cefnogi holl ysgolion y sir i dyfu siaradwyr Cymraeg hyderus.”
Ychwanegodd Garem Jackson, Pennaeth Adran Addysg Cyngor Gwynedd:
“Ers yr adroddiad diwethaf gan Estyn ‘nol yn 2013, rydym wedi gweld llawer o newid yma yng Nghyngor Gwynedd ond mae ein hangerdd i sicrhau’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a phobl ifanc y sir yn parhau’n gyson. Rydw i’n falch dros ben o gynnwys yr adroddiad yma a hoffwn ddiolch i swyddogion yr adran, staff ysgolion a llywodraethwyr y sir am eu hymroddiad a’r cydweithio gwych. Diolch hefyd i deuluoedd ein disgyblion am eu cefnogaeth.
“Mae rhoi’r cychwyn gorau posib mewn bywyd i’n plant a’n pobl ifanc wedi ei adnabod fel un o flaenoriaethau'r Cyngor yn ein cynllun strategol pum mlynedd hyd at 2028 felly mae’r adroddiad yma yn dyst ein bod ar y trywydd cywir a bydd yn ein helpu i barhau i godi safonau ym mhob ysgol, ym mhob pwnc ac ym mhob ystafell dosbarth.
“Wrth gwrs, fel byddai unrhyw athro neu athrawes yn ei ddweud, nid da lle gellir gwell ac rydym yn nodi argymhellion yr arolygwyr ac yn wir mae gwaith eisoes wedi dechrau yn y meysydd sy’n cael eu hadnabod ble mae angen datblygiad pellach.”
Mae’r Cyngor eisoes yn gweithredu ar y meysydd gwella sydd wedi eu hadnabod gan Estyn, ac yn mynd ati i gryfhau ymhellach y cynlluniau yn y meysydd hyn i gyfarch yr argymhellion.
Mae’r adroddiad llawn ar gael yma: Gwynedd Council | Estyn (llyw.cymru)