Cyngor Gwynedd yn cymryd y cam cyntaf tuag at adeiladu tai fforddiadwy
Dyddiad: 04/09/2024
Mae’r gwaith wedi dechrau ar safle’r hen lyfrgell yn Llanberis fydd yn gweld Cyngor Gwynedd yn codi tri thŷ fforddiadwy i bobl leol.
Dros y misoedd nesaf, drwy gynllun Tŷ Gwynedd, bydd Cyngor Gwynedd yn adeiladu eu tai cyntaf ers dros 30 mlynedd, er mwyn diwallu’r galw mawr am dai addas sydd o fewn cyrraedd pobl leol.
Cam cyntaf y prosiect penodol hwn yn Llanberis fydd dymchwel yr adeilad presennol – sydd wedi bod yn wag ers cau’r llyfrgell yn 2017 – cyn bydd gwaith adeiladu yn dechrau ar ddau dŷ pâr gyda dwy ystafell wely; ac un tŷ ar wahân gyda thair ystafell wely.
Penodwyd OBR Construction i glirio’r safle ac adeiladu’r cartrefi newydd, ac mae Saer Architects, wedi gweithio ochr yn ochr â Chyngor Gwynedd i ddatblygu’r cynlluniau arloesol.
Amcan cynllun Tŷ Gwynedd yw creu cartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithlon i bobl leol, yn enwedig rheini sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu cartref ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.
Mae'r datblygiad yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai'r Cyngor i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r cynllun yn cynnwys darparu dros 1000 o dai fforddiadwy erbyn 2027, gan gynnwys datblygu 90 o gartrefi newydd drwy’r cynllun Tŷ Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Mae’n bleser gen i fel Aelod Cabinet gweld ein holl baratoadau trylwyr yn dwyn ffrwyth. Mae dymchwel yr hen lyfrgell yn garreg filltir bwysig yn y gwaith o ddechrau ar ddatblygu’r tai cyntaf ers dros 30 mlynedd yng Ngwynedd.
“Wrth i’r galw am dai barhau i gynyddu, mae yna brinder mawr o gartrefi i’r rheini sy’n disgyn rhwng dwy stôl o fethu mynd ar y rhestr am dŷ cymdeithasol ond sydd hefyd yn gweld hi’n anodd fforddio tŷ ar y farchnad agored.
“Dw i’n edrych ymlaen at weld y tai newydd sbon yma yn y dyfodol agos yn cael eu trawsnewid i fod yn gartrefi oes i deuluoedd ac unigolion lleol.”
Unwaith y byddant ar gael, bydd yn bosib ymgeisio am y tai hyn trwy Tai Teg, sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi enw ymlaen ar gyfer un o'r tai i gofrestru gyda Tai Teg cyn gynted â phosibl.
I weld y meini prawf cymhwysedd ac i gofrestru diddordeb, mae’r holl wybodaeth ar gael ar wefan Tai Teg: Tai Teg | Hafan
Nodiadau i'r golygyddion
Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd: Cynllun Tŷ Gwynedd (llyw.cymru)
Fideo o amser yn mynd heibio o’r safle yn cael ei glirio: Fideo o amser yn mynd heibio - Tŷ Gwynedd Llanberis / Timelapse video - Tŷ Gwynedd Llanberis (youtube.com)