Cynlluniau Cyngor Gwynedd ar gyfer cartref gofal nyrsio gam yn nes

Dyddiad: 25/09/2024

Mae cynlluniau i ddarparu gofal preswyl nyrsio ym Mhen Llŷn gam yn nes, wedi i Gyngor Gwynedd sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru i symud y prosiect ymlaen.

Mae Cyngor Gwynedd, wrth weithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), yn datblygu prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn ardal Penrhos ger Pwllheli a fydd nid yn unig yn darparu gofal nyrsio y mae wir ei angen ar gyfer pobl yn ardaloedd Llŷn ac Eifionydd, ond hefyd yn rhoi hwb economaidd drwy sicrhau nifer o swyddi medrus a hirdymor. Bydd y cartref gofal hwn yn ehangu ar yr hyn oedd ar gael ar y safle yn y gorffenol.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau y bydd cyllid o Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso ar gael, fydd yn caniatáu i Gyngor Gwynedd a BIPBC ddatblygu achos busnes amlinellol a chynllun manwl ar gyfer cartref preswyl a nyrsio ar y safle.

Mae’r newydd hwn yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer y prosiect uchelgeisiol yma, a bydd cais cynllunio ffurfiol yn cael ei gyflwyno maes o law, cyn gwneud cais pellach am arian gan Lywodraeth Cymru i’w adeiladu. Pan fydd y cartref yn agor ei drysau, bydd lle ar gyfer 32 o welyau dementia ynghyd â 24 o welyau nyrsio, gyda chyfran ohonynt yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gofal nyrsio dementia.

Cafodd dwy erw o dir ym Mhenrhos – safle presennol pentref Pwylaidd Penrhos – ei drosglwyddo i'r Cyngor gan gymdeithas dai ClwydAlyn er mwyn adeiladu cartref gofal newydd. Bydd yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â chynlluniau gan ClwydAlyn i ddatblygu cartrefi carbon isel o ansawdd uchel gyda darpariaethau iechyd a gofal ar yr un safle.

Bydd y datblygiad tai yn darparu cartrefi yn bennaf i bobl ag anghenion cefnogaeth a gofal, gan gynnwys preswylwyr presennol Pentref Pwylaidd Penrhos. Bydd hefyd yn darparu rhywfaint o dai fforddiadwy i bobl leol.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant: "Rwy'n falch iawn ein bod ni fel Cyngor yn gallu gweithio gyda'n partneriaid o'r sectorau iechyd a thai ar y prosiect uchelgeisiol hwn.

"Yn anffodus, mae prinder o welyau mewn cartrefi nyrsio ar draws y sir, sy'n fwy acíwt yn ardal Llŷn heb unrhyw ddarpariaeth a ariennir yn gyhoeddus o gwbl a’n gobaith yw y bydd y datrysiad nid-er-elw hwn yn dod a gwell cydbwysedd i’r gwasanaeth gofal preswyl a nyrsio yn lleol ac yn rhoi mwy o ddewis.

“Ar hyn o bryd, mae gormod o bobl yn gorfod symud ymhell oddi wrth eu teuluoedd a’u cynefin, a hynny pan maent ar eu mwyaf bregus. Mae'r cyllid grant hwn gan Lywodraeth Cymru yn mynd yn cyfrannu tuag at greu system ofal mwy gwydn a sicrhau bod gan bobl fynediad i wasanaethau gofal drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymunedau eu hunain.

“Heb os, bydd y datblygiad hwn yn darparu hwb economaidd y mae gwir ei angen ar ardal Pwllheli. Pan fydd y cartref yn weithredol – yn dilyn y broses baratoi rydan ni’n mynd trwyddi ar hyn o bryd a’r cyfnod adeiladu – rwy’n hyderus y gallwn wneud y gorau o'n gweithlu lleol gan y bydd cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant gyrfa ar gael i siaradwyr Cymraeg yn arbennig."

Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Dyfed Edwards: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn i gynyddu capasiti cartrefi gofal preswyl a nyrsio ym Mhen Llŷn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gallu rhoi mwy o opsiynau i bobl leol fel bo modd iddynt dderbyn gofal yn nes at eu cartref a'u teuluoedd a bydd y datblygiad arfaethedig yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn: “Rydym yn falch o chwarae rhan allweddol yn y prosiect trawsnewidiol hwn a fydd yn gweld Penrhos yn dod yn ganolbwynt cymunedol. Trwy weithio'n agos gyda'n partneriaid, rydym nid yn unig yn mynd i'r afael ag anghenion gofal brys yn yr ardal ond hefyd yn meithrin amgylchedd cefnogol i breswylwyr.

"Mae'r datblygiad hwn yn ymgorffori ein hymrwymiad i adeiladu nid yn unig cartrefi, ond cymunedau sy'n cefnogi lles ac ansawdd bywyd i bawb, tra hefyd yn darparu datrysiadau tai a gofal cynaliadwy o ansawdd uchel.”