Dathlu hanes a threftadaeth ein cymunedau llechi drwy gelf
Dyddiad: 01/10/2024
Mae rhai o bobl ifanc Gwynedd wedi cyfrannu tuag at greu celf gyhoeddus drawiadol fydd yn dathlu hanes a threftadaeth yng nghymunedau Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
Mae disgyblion o Ysgol Bro Lleu, Penygroes; Ysgol Eifion Wyn ac Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog; ac Ysgol Y Moelwyn ym Mlaenau Ffestiniog wedi bod yn gweithio gydag artistiaid a chrefftwyr fel rhan o brosiectau Llewyrch o’r Llechi a Chronfa Ffyniant Gyffredin sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet dros Ddatblygiad Economaidd: “Mae’n braf gweld pobl ifanc yn ymddiddori ac yn cael y cyfle i gyfrannu at brosiectau celf gyhoeddus fel rhan o Safle Treftadaeth y Bydd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.
“Mae mynegi eu hunain trwy gelf yn ffordd wahanol i ennyn parch ein pobl ifanc at eu treftadaeth. Bydd lleoliad y gwaith yng nghanol cymunedau Dyffryn Nantlle, Porthmadog a Blaenau Ffestiniog yn destun balchder ac yn adlewyrchu bod treftadaeth chwarelyddol yr ardal yn perthyn nid yn unig yn y gorffennol ond i’r genhedlaeth heddiw ac i’r dyfodol, ac yn hwb i’n hymdrechion parhaus i adfywio cymunedau llechi Gwynedd.
“Mae'r prosiect hwn wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Cyffredin a'r rhaglen Llewyrch o'r Llechi, sy’n cael eu gweinyddu gan Gyngor Gwynedd.”
Ers i Gyngor Gwynedd a'i bartneriaid allweddol sicrhau dynodiad Safle Treftadaeth y Byd ar gyfer Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn 2021, mae llawer o waith wedi'i wneud i fanteisio ar y dynodiad er budd ein cymunedau a'n busnesau.
Mae’r prosiect celf hwn yn un o nifer o brosiectau buddsoddi sydd ar y gweill sydd yn cyfrannu at weledigaeth y Safle Treftadaeth y Byd, sef diogelu, cadw, gwella a chyfleu priodweddau pwysig yr ardal er mwyn atgyfnerthu hynodrwydd diwylliannol a chryfhau'r Gymraeg, a dod yn sbardun pwysig adfywio economaidd a chynhwysiant cymdeithasol.
Penygroes
Ym Mhenygroes, bydd yr artist Angharad Pearce Jones yn creu gwaith cerfluniol fydd yn cael ei osod ger safle Byw’n Iach Plas Silyn. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda phlant Ysgol Bro Lleu, Penygroes i gychwyn ar y prosiect, ac fe fydd ei chelf yn cael ei osod yn ddiweddarach eleni.
Meddai’r artist:
"Mae'n fraint o ennill un o'r comisiynau celf cyhoeddus yn y Tirwedd Lechi.
"Rydw i wedi bod yn gweithio gyda pobl ifanc Penygroes i ddatblygu darn o gelf sy'n adlewyrchu tirwedd ôl-ddiwydiannol Dyffryn Nantlle a diwylliant llenyddol cryf yr ardal arbennig hon.
"Mae eu gwybodaeth a'u brwdfrydedd wedi creu argraff fawr arna i!"
Meddai Sharon Roberts, athrawes dosbarth Ysgol Bro Lleu:
“Mae wedi bod yn gyffrous iawn cael artist enwog yn ymweld â'r ysgol.
“Mae’r disgyblion wedi mwynhau dysgu am eu hanes lleol yn fawr, a chyfrannu at y prosiect creadigol hwn.
“Rydym yn falch iawn o’n diwylliant, ein hanes, a’n treftadaeth ac mae’r prosiect hwn wedi bod yn ffordd wych o gysylltu â’r themâu hynny.”
Blaenau Ffestiniog
Ym Mlaenau Ffestiniog, mae Original Roofing Company (ORC) wedi cael eu comisiynu i greu murlun llechi yn y dref, ac wedi derbyn mewnbwn gan ddisgyblion Ysgol Y Moelwyn o ran y dyluniad.
Cafodd y disgyblion gyfle hefyd i roi cynnig ar dechnegau crefft llechi traddodiadol.
Mae ORC yn adnabyddus am eu dyluniadau artistig a dychmygus, sy'n mynd law yn llaw â'u hatgyweiriadau a'u gosodiadau o doeau a waliau thalcen tai o lechi.
Dywedodd cydberchennog y busnes, Kaz Bentham:
"Roeddem eisiau dweud pa mor hapus ydym ni i gael y cyfle i gyflwyno'r prosiect celf cyffrous yma ym Mlaenau Ffestiniog.
“Mae gallu gwneud hyn yn ein tref enedigol yn anrhydedd, a gyda chymorth a mewnbwn y gymuned leol rydym yn hyderus y gallwn adael rhywbeth i bawb ei fwynhau am flynyddoedd lawer i ddod."