Nifer uchaf o deithwyr ar wasanaeth bws Sherpa yr Wyddfa

Dyddiad: 24/09/2024

Mae’r ffigurau misol diweddaraf yn dangos bod 72,296 o bobl, sef y nifer uchaf erioed, wedi teithio ar rwydwaith bysiau Sherpa’r Wyddfa yn ardal Eryri.

Wrth i’r diwydiant ddathlu ‘Mis Dal y Bws’ yn ystod mis Medi, mae ffigurau’r haf yn dangos mai mis Awst oedd y mis cyntaf i fwy na 70,000 o deithwyr ddefnyddio’r Sherpa’r Wyddfa.

Ers i rwydwaith Sherpa gael ei ail-ddylunio a lansio'r gwasanaethau ar eu newydd wedd yn swyddogol yn 2022, mae nifer y teithwyr wedi cynyddu'n gyson. Yn wir, mae’r gwasanaethau wedi gweld cynnydd o 79% yn nifer y teithwyr o gymharu â’r cyfnod cyn Covid.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Fe gafodd y gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa eu cynllunio’n ofalus yn ystod y broses ail-ddylunio i sicrhau ei fod yn cynnig teithiau dyddiol hanfodol i bobl leol ynghyd ag adnodd teithio pwysig i bobl sy’n ymweld â’r ardal.

“Gan gydweithio â nifer o bartneriaid, rydym yn falch iawn o gadarnhau bod y Sherpa yn parhau i gynnig rhwydwaith ardderchog o wasanaethau bws i gludo pobl o amgylch ardal Eryri mewn modd cynaliadwy.

“Mae darparu rhwydwaith bysiau cyfleus, dibynadwy a fforddiadwy yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ac yn ddiweddar rydym wedi cwblhau adolygiad sirol o’n gwasanaethau gyda’r bwriad o ddarparu’r gwasanaethau gorau posib gyda’r adnoddau sydd ar gael.

“Mae’r niferoedd teithwyr diweddaraf ar gyfer y Sherpa yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio â phartneriaid ac yn cynllunio llwybrau sy’n diwallu anghenion pobl leol a’r rhai sy’n ymweld â’r ardal.

“Hoffem annog y rhai sy’n gallu teithio ar fws i wneud hynny, boed hynny’n rheolaidd neu’n achlysurol. Mae hyn yn helpu i wneud gwasanaethau bysiau lleol mor gynaliadwy â phosibl o sail ariannol ac amgylcheddol yn ogystal â chefnogi’r achos dros welliannau pellach.”

Yn dilyn adolygiad helaeth Cyngor Gwynedd o rwydwaith bysiau’r sir, mae amserlenni newydd wedi eu cyflwyno lle bynnag y bo modd gyda phrisiau tocynnau safonol yn seiliedig ar bellteroedd i gynnig gwasanaeth tecach ar draws y sir. Mae'r Cyngor hefyd wedi gweithio'n galed i sicrhau gwasanaethau integredig sy'n helpu i annog mwy o bobl i adael y car gartref a gwneud y gorau o'r gwasanaethau bws.

Mae gwasanaeth Sherpa’r Wyddfa yn cael ei redeg gan Gyngor Gwynedd ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri. Am ragor o wybodaeth am Sherpa’r Wyddfa ewch i www.sherparwyddfa.cymru

Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth a mewnbwn yr holl randdeiliaid allweddol sy'n cynnwys y gweithredwyr eu hunain a Llywodraeth Cymru sy'n cyfrannu'n sylweddol at lefel y gwasanaeth y mae'n bosibl ei ddarparu.