Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd 2024

Dyddiad: 20/09/2024

Cynhelir Wythnos Busnes Cyngor Gwynedd 2024 rhwng 14 a 18 Hydref, gan roi cyfle i fusnesau a sefydliadau ledled y sir ddod at ei gilydd i rannu, dysgu a pharatoi ar gyfer y dyfodol.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal gan Gyngor Gwynedd yn ogystal â sefydliadau cymorth busnes eraill mewn gwahanol leoliadau ledled o fewn y sir, gan gynnig ystod eang o gyngor a mewnwelediadau i gefnogi busnesau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd, a'r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros ddatblygu economaidd:

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn arbennig o heriol i fusnesau yng Ngwynedd, gyda chostau cynyddol, chwyddiant uchel, ac effeithiau parhaus y pandemig a Brexit. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae cymorth wedi bod ar gael i helpu busnesau i lywio'r cyfnod cythryblus hwn.

"Rwyf wedi cael y fraint o ymweld â sawl busnes ar draws y sir a gweld yn uniongyrchol ymroddiad anhygoel a gwaith caled y perchnogion a'u timau.

"Bydd Wythnos Busnes Gwynedd 2024 yn rhoi llwyfan gwerthfawr i fusnesau lleol ddod at ei gilydd, rhannu eu profiadau, cysylltu â chyfoedion, ac archwilio ffyrdd o feithrin gwytnwch mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus."

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i ddarparu rhaglen amrywiol a deniadol a fydd yn mynd i'r afael ag anghenion busnesau lleol.

Bydd mwy o fanylion am y digwyddiadau unigol a gwybodaeth am sut i gofrestru yn cael eu rhannu yn fuan. Bydd rhaglen lawn o’r gweithgareddau – a sut i gofrestru – ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/DigwyddiadauBusnes. Cadwch lygaid ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd am ddiweddariadau: X (Twitter gynt) - @BusnesGwynedd | LinkedIn - https://tinyurl.com/linkedinbusnesgwynedd