Diwrnod o Hwyl a Lles yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn
Dyddiad: 20/06/2023
Bydd Diwrnod Llesiant rhad ac am ddim yn cael ei gynnal ar y cyd gan Llwybrau Llesiant a Byw’n Iach dydd Llun, 10 Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn ym Mhorthmadog rhwng 10:00yb a 3:00yp ac mae croeso mawr i bawb ymuno.
Yn rhan o’r diwrnod bydd sesiynau hamdden dan oruchwyliaeth ar gael yn cynnwys nofio, gweithgareddau campfa, boccia a chwaraeon raced.
Bydd gweithgareddau hefyd yn cynnwys arddangosiad adar ysglyfaethus, cyfle i brofi digidol rhith-realiti, sesiwn seiclo addasol, sesiwn garddio organig a sesiwn grefftau.
Bydd asiantaethau cysylltiedig yn ymuno a’r sesiwn a bydd modd sgwrsio â aelodau o’r tîm nyrsio oedolion, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd a llawer mwy.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan:
“Rwyf yn hynod o falch o’r digwyddiad yma sydd yn cael ei gynnal yma yng Ngwynedd ac mae llesiant ein trigolion yn bwysig iawn i ni yn y Cyngor.
Rwyf yn annog oedolion hŷn ac oedolion ag anableddau i ddod i fwynhau gweithgareddau’r Diwrnod Llesiant sydd yn rhad ac am ddim yn ogystal a chael cyfle i ddod i wybod mwy am yr help sydd ar gael”
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â Andy ar 07385952212
Bydd amserlen llawn o ddigwyddiadau a fydd ar gael rhwng 10yb a 3yp yn cael eu gyhoeddi maes o law.