Cyngor Gwynedd yn llwyddiannus wrth erlyn tipiwr anghyfreithlon

Dyddiad: 14/06/2024

Mae dyn o Gricieth wedi cael gorchymyn i dalu dros £1,000 mewn dirwyon a chostau ar ôl i Gyngor Gwynedd ei erlyn yn llwyddiannus am gael gwared ar ysbwriel yn anghyfreithlon mewn lleoliad prydferth yn Eifionydd.

 

Mae'r Cyngor wedi rhybuddio eraill na fydd yn goddef gweithredoedd hunanol o'r fath a dywed bod yr achos hwn yn enghraifft o sut y gall yr awdurdodau a'r gymuned gydweithio i atal troseddau amgylcheddol.

 

Ar 6 Mehefin, 2024, ymddangosodd Mr Len Evans o 1 Gerddi Arfonia, Cricieth, gerbron Llys Ynadon Caernarfon lle y bu iddo gyfaddef tipio gwastraff yn anghyfreithlon ar lannau afon Dwyfach o dan y bont ym Mrynbeddau, Rhos-lan ger Cricieth. Cafodd ddirwy o £769 gan yr Ynadon, ac fe gafodd orchymyn i dalu £390 mewn costau a thaliadau, yn ogystal â £100 pellach o iawndal i Gyngor Gwynedd am glirio'r safle.

 

Daw'r erlyniad yn dilyn ymchwiliad gan Wasanaeth Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd, ar ôl i aelod o'r cyhoedd wneud cwyn bod ysbwriel yn cael ei adael ar lan yr afon. 

 

Wrth ymateb i'r gŵyn, daeth swyddogion Cyngor Gwynedd o hyd i baled pren, bocsys cardfwrdd a phum bag o ysbwriel ac roedd modd iddynt olrhain yr eitemau yn ôl i'r diffynnydd. Clywodd yr Ynadon bod Mr Len Evans wedi casglu'r eitemau o eiddo yng Nghricieth, gan ddweud wrth y perchennog y byddai'n cael gwared ar yr ysbwriel yn briodol ac yn gyfreithlon. Ond yn lle hynny, aeth ati yn anghyfreithlon i adael yr ysbwriel yn Rhos-lan.

 

Cafodd Mr Len Evans orchymyn i dalu hysbysiad cosb benodedig ond wedi iddo fethu â thalu'r swm y gofynnwyd amdano, nid oedd gan y Cyngor fawr o ddewis ond bwrw mlaen gyda erlyniad.

 

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Edrychiad Stryd Cyngor Gwynedd:  "Mae materion megis tipio slei bach a graffiti yn droseddau amgylcheddol ac mae gan Gyngor Gwynedd bwerau i gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig a hyd yn oed i erlyn y rhai sy'n gyfrifol. Rydym yn fodlon â phenderfyniad y Llys a gobeithiwn bod hyn yn anfon neges glir i bobl ynghylch canlyniad gweithredu mewn modd mor hunanol. 

 

"Nid oes esgus dros daflu neu adael ysbwriel fel hyn – nid yn unig y mae'n cael effaith negyddol ar edrychiad a naws ardal leol, ond gall hefyd beri risg i iechyd pobl leol, llygru'r amgylchedd a niweidio bywyd gwyllt.

 

"Byddem yn annog pobl i sicrhau eu bod yn cael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol ac yn gyfreithlon. Defnyddiwch y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu rheolaidd, ac os ydych chi wedi bod yn clirio go iawn ac eisiau cael gwared ar nifer o eitemau, ewch â'ch gwastraff ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu leol. Mae manylion yr holl ganolfannau i'w gweld ar wefan y Cyngor.

 

"Fel arall, ystyriwch werthu neu gyfnewid eitemau nad ydych eu hangen drwy ddefnyddio cymunedau ar-lein, neu eu rhoi i elusen. Hefyd, gallwch drefnu i'r Cyngor ddod draw i nôl eitemau swmpus neu ofyn i gwmni gwaredu gwastraff cofrestredig.  Er bod ffi am y gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, mae'r achos hwn o ardal Eifionydd yn dangos bod y ffi honno yn llawer is na'r ffioedd a'r dirwyon y gall y Llys eu rhoi.

 

"Dymuna'r Cyngor hefyd ddiolch i'r aelodau o'r cyhoedd a adroddodd am yr achos hwn o dipio slei bach. Cofiwch, gall unrhyw un adrodd am y mathau hyn o droseddau amgylcheddol ar wefan y Cyngor neu ar ap apGwynedd."

 

Mae manylion y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, yr wyth canolfan ailgylchu sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor yng Ngwynedd, a sut i drefnu gwasanaeth casglu gwastraff swmpus, i gyd ar gael ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/ailgylchu 

 

Mae rhagor o wybodaeth am dipio anghyfreithlon hefyd ar gael ar wefan Taclo Tipio Cymru: https://www.flytippingactionwales.org/cy