Llwybr Arfordir Cymru i'w gael ei ail-lwybro drwy Ystâd Penrhyn, Bangor

Dyddiad: 19/12/2022
Llwybr Arfordir Cymru

Mae cam arall wedi ei gymryd ar y daith tuag at ail-alinio Llwybr Arfordir Cymru i fod yn nes at yr arfordir, diolch i drafodaethau llwyddiannus rhwng Cyngor Gwynedd a thirfeddiannwr lleol.

Bydd llwybr newydd yn mynd drwy Ystâd Penrhyn, Bangor a fydd yn cysylltu Porth Penrhyn gyda’r llwybr presennol ger Gwarchodfa Natur Aberogwen.

Pan fydd wedi’i gwblhau bydd y llwybr yn galluogi cerddwyr i fwynhau golygfeydd godidog Traeth Lafan ac arfordir gogledd Cymru ar y rhan yma o’r daith.

Bydd y gwaith yn dechrau yn y flwyddyn newydd gyda’r llwybr yn agor i’r cyhoedd erbyn gwanwyn 2023, felly dylai’r cyhoedd barhau i ddefnyddio’r llwybrau presennol tan hynny.

Dywedodd Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir yr ardal:

“Mae wedi cymryd amser hir oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys Covid yn dal trafodaethau’n ôl, serch hynny roedd yn werth yr holl ymdrech. Mae’n garreg filltir arall i ni yng Ngwynedd yn ein gwaith i adlinio Llwybr Arfordir Cymru yn agosach at yr arfordir, gyda’r cytundeb cyfreithiol diweddaraf yma’n mynd a ni dros y marc 20 milltir o lwybr troed newydd wedi’i greu ers 2010.

“Cyflawnwyd hyn trwy weithio mewn partneriaeth â thirfeddianwyr sy’n haeddu canmoliaeth am lwyddiant y prosiect. Bydd y llwybr newydd yn ased gwych i bobl leol a thwristiaid, a bydd yn cyfrannu’n positif tuag at y rhwydwaith llwybrau troed ym Mangor a’r cyffiniau.”

Dywedodd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:

“Mae’r llwyddiant yma’n amserol gan fod Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers agor yn swyddogol nôl ym mis Mai 2012, ac mae nifer o ddathliadau ar draws y flwyddyn i nodi’r achlysur. Bydd yr adran ddiweddaraf yma i'w ail-lwybro yn cael ei chroesawu gan bawb.

Mae caniatâd adeilad rhestredig wedi ei sicrhau i dynnu lawr rhan o wal restredig gradd 2 Ystâd Penrhyn i osod gatiau cerddwyr ar bob pen i'r ystâd. Bydd y llwybr wedyn yn dilyn yr arfordir drwy’r coetir a chaeau agored.

Ychwanegodd Rhys Roberts: “Gallaf hefyd gadarnhau ein bod eisoes yn symud ymlaen ac yn gweithio ar y rhannau nesaf i’w datblygu, a hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth barhaus i Lwybr Arfordir Cymru.”

Llun: Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru a’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd.