Cyngor Gwynedd yn penodi Pennaeth Addysg newydd
Dyddiad: 04/12/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Gwern ap Rhisiart yn Bennaeth Addysg newydd.
Mae Gwern wedi gweithio i Gyngor Gwynedd ers 2015 ac ar hyn o bryd yn Bennaeth Cynorthwyol yn yr Adran Addysg. Bu’n ddirprwy bennaeth yn Ysgol Dyffryn Nantlle a chyn hynny yn Bennaeth Ysgol Coed Menai, Bangor. Fel swyddog mae wedi arwain ar waith yn y maes anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad ac yn fwy diweddar mae wedi cefnogi y sector gynradd ar draws Gwynedd.
Yn enedigol o ardal Llwyndyrys, mae Gwern yn gyn ddisgybl Ysgol Bro Plenydd y Ffor, Ysgol Glan-y-Môr a Choleg Meirion Dwyfor Pwllheli. Yn dilyn hyn bu iddo astudio addysg yn Mhrifysgol Bangor.
Ar ei benodiad, dywedodd Gwern: “Fel rhywun sydd wedi gweithio gyda phlant a phobl ifanc drwy gydol fy ngyrfa, mae’n fraint o’r mwyaf cael fy newis i arwain y maes pwysig yma.
“Edrychaf ymlaen at weithio â thîm talentog o athrawon a phenaethiaid, swyddogion addysg a llywodraethwyr i helpu plant a phobl ifanc ym mhob rhan o’r sir ac o bob cefndir i ffynnu.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:
“Rydw i’n hynod falch ein bod wedi llwyddo i ddenu unigolyn disglair iawn i’r swydd allweddol hon. Mae Gwern yn dod a chyfoeth o brofiad addysgu ac arwain gydag o i’r rôl a hoffwn ei longyfarch yn wresog ar ei benodiad.
“Mae addysg ein plant yn flaenoriaeth allweddol i ni yng Ngwynedd, fel sydd wedi ei amlygu yng Nghynllun y Cyngor 2023-28. Ein huchelgais ydi sicrhau’r dechrau gorau mewn bywyd i'r genhedlaeth nesaf o drigolion Gwynedd, ac rydym yn hyderus y byddwn yn parhau i symud tuag at wireddu’r uchelgais yma dan arweinyddiaeth Gwern.
“Mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, daeth arolygwyr addysg Estyn i’r casgliad fod Awdurdod Addysg Gwynedd mewn sefyllfa gref. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda Gwern a’i dîm, a’r gymuned addysg ehangach yn y sir, i adeiladu ar y seiliau cadarn hyn i’r dyfodol.”