Cyngor Gwynedd yn annog pobl i baratoi am y gaeaf
Dyddiad: 01/12/2023
Gyda’r gaeaf wedi ein cyrraedd, mae Cyngor Gwynedd yn annog pobl leol i baratoi ar gyfer effeithiau tywydd garw er mwyn amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a’u heiddo.
Rhagdybir y bydd stormydd yn dod fwyfwy cyffredin oherwydd effeithiau newid hinsawdd ac mae’r Cyngor yn annog pobl i wneud y defnydd gorau o adnodd ar-lein sy’n dwyn ynghyd gwybodaeth ac arweiniad ddefnyddiol.
Nod www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf ydi cynnig siop-un-stop i drigolion Gwynedd gael cyngor am baratoi ar gyfer y gaeaf, beth i’w wneud os ydi tywydd garw yn effeithio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a manylion am y gefnogaeth sydd ar gael i gadw’n gynnes.
Ymysg y wybodaeth ar y dudalen ceir manylion am:
- Ffyrdd Gwynedd sy’n cael eu graeanu a threfniadau biniau halen yn y sir.
- Sut i adrodd am broblemau fel coeden wedi syrthio, problemau dŵr ar y ffordd neu oleuadau stryd sydd wedi torri.
- Gwasanaethau’r Cyngor allai fod wedi eu heffeithio yn ystod tywydd garw.
- Dolenni defnyddiol i awdurdodau ac asiantaethau allweddol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, y rhwydwaith trydanol a’r bwrdd iechyd lleol.
- Cymorth i wresogi eich cartref gan gynnwys manylion am gefnogaeth ariannol posib i bobl daclo tlodi tanwydd.
Mae’r Cyngor hefyd yn argymell i aelodau o’r cyhoedd i gadw golwg ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor – a chyfrifon partneriaid allweddol megis y Swyddfa Dywydd, y gwasanaethau brys a Traffig Cymru – yn ystod cyfnodau o dywydd garw, er mwyn bod yn ymwybodol o’r rhybuddion a’r newyddion diweddaraf. Mae’r Cyngor yn annog y rhai hynny nad ydynt yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i wrando ar fwletinau newyddion dibynadwy ar orsafoedd radio lleol yn ystod cyfnodau o dywydd garw.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd, sy’n gyfrifol am faes cynllunio argyfwng:
“Mae’n teimlo fel petai’r gaeaf yn dod yn gynt bob blwyddyn, a ninnau eisoes wedi profi tywydd garw dros yr wythnosau diweddar yn sgil stormydd Ciarán a Debi. Heb os, mae’r tywydd wedi oeri dros y dyddiau diwethaf hefyd.
“Mae heriau yn aml ynghlwm a’r gaeaf, ond gallwn ni i gyd leihau’r effaith trwy gymryd camau bychan i fod yn barod amdano. Os nad ydych wedi ystyried y mater yn barod, mae’n amser da i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa gymorth sydd ar gael pe bai tywydd stormus neu oer yn taro, ac i feddwl beth allwch chi ei wneud i baratoi.
“Rydw i’n falch iawn fod y dudalen hon ar wefan y Cyngor yn dod â llawer o wybodaeth ddefnyddiol i bob un ohonom at ei gilydd mewn un lle, er enghraifft gwybodaeth am y lonydd sy’n cael eu graeanu, sut i roi gwybod i’r Cyngor am broblemau oherwydd tywydd garw neu sut i gael gwybod am rybuddion llifogydd.
“Mi fyddwn i’n annog unrhyw un i daro golwg ar y cyngor defnyddiol a chefnogaeth ymarferol sydd ar gael ar dudalen www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf ac arbed y manylion fel ffefryn rhag ofn y byddwch ei angen yn y dyfodol.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Menna Trenholme: “Rydw i hefyd yn annog pobl sy’n defnyddio gwasanaethau fel Facebook a X (Twitter gynt) i chwilio am gyfrifon defnyddiol i’w dilyn, fel eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn syth i'w ffôn, llechen neu gyfrifiadur.”
Ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf i bori drwy wybodaeth ddefnyddiol i helpu trigolion Gwynedd i baratoi am y gaeaf.