Trosolwg o waith Cyngor Gwynedd dros y flwyddyn ddiwethaf
Dyddiad: 03/11/2023
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2022-23, sydd yn disgrifio’r hyn gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’r adroddiad yn disgrifio’r hyn wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal a mesur llwyddiant ein prosiectau. Mae’n amlygu’r llwyddiannau ac yn dangos lle mae gwaith dal angen ei wneud.
“Unwaith eto mae hi wedi bod yn flwyddyn llawn heriau, ond roeddwn yn falch o weld llu o enghreifftiau o lwyddiant ac arloesedd yn ogystal. Llwyddwyd i ddod a dros 100 o dai gwag yn ôl i ddefnydd, ac fel rhan o’r cynllun cyntaf o’i fath ers 30 mlynedd gan y Cyngor mi brynwyd tir i adeiladu tai ar gyfer pobl leol.
“Uchafbwynt arall oedd ein cynnydd tuag at Gynllun Awtistiaeth Gwynedd a rhoddwyd rhaglen ar waith i godi ymwybyddiaeth a chynyddu’r gefnogaeth i deuluoedd ac unigolion sy’n byw â chyflwr niwroddatblygol.
“Roedd hi’n dda gweld ein gwasanaethau yn ail-afael â rhai o’r trefniadau cyfarwydd oedd yn bodoli cyn y pandemig, tra ar yr un pryd yn dal gafael ar y gorau o’r elfennau newydd a gyflwynwyd dros y dair blynedd olaf.
“Hoffwn ddiolch yn fawr i holl staff y Cyngor am eu hymroddiad. Rwyf yn edrych ymlaen i weld sut bydd ein prosiectau newydd yn datblygu, ac i weld yr effaith gadarnhaol y byddant yn eu cael ar fywydau pobl Gwynedd.”
Mae copi llawn o’r adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 ar gael ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/Perfformiad
Gallwch hefyd ymweld a’ch llyfrgell leol i ddarllen copi papur neu i ddefnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus i ddarllen copi ar-lein.