Cyngor Gwynedd yn lansio Academi Gofal
Dyddiad: 14/11/2024
Mae cynllun arloesol gan Gyngor Gwynedd wedi ei lansio dydd Mercher, 13 Tachwedd, 2024. Bydd Academi Gofal Gwynedd yn mynd i’r afael â phrinder staff yn y sector Gofal drwy uwchsgilio a datblygu unigolion i ddilyn gyrfa yn y maes gofal.
Bydd yr Academi Gofal yn ymateb tymor byr i’r broblem staffio, ac yn ddatrysiad tymor hir i’r broblem ehangach drwy alluogi staff i ddatblygu eu sgiliau yn ogystal â cynnig cyfleoedd i bobl 17+ oed sydd â diddordeb mewn rôl Rheoli Gofal, dod yn Weithiwr Cymdeithasol neu'n Therapydd Galwedigaethol o fewn y Cyngor.
Mae’r Academi Gofal yn rhoi cyfle i unigolion dderbyn profiadau ymarferol, cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ac i gael eu mentora gan arbenigwyr yn y maes. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn yr Academi yn derbyn cyflog tra’n gweithio tuag at gymwysterau cydnabyddedig.
Dywedodd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant “Mae Academi Gofal Gwynedd yn gyfle gwych i chi ddatblygu eich gyrfa yn y maes Gofal drwy weithio gyda phobl brofiadol, derbyn cymwysterau a chael cyflog yr un pryd.
“Fel ym mhob sector a sefydliad rydym yn wynebu heriau wrth recriwtio gweithwyr gofal, ar draws meysydd gofal cymdeithasol oedolion, plant ac anabledd dysgu.
“Mae ein staff gofal presennol yn ymrwymedig a phroffesiynol, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith yn enwedig drwy gyfnod y pandemig. Mae staff heddiw yn wynebu cynnydd yn y galw am wasanaethau oherwydd cyfuniad o ffactorau.
“Ein nod gyda’n cynlluniau recriwtio yw parhau i ddarparu gwasanaeth i’n trigolion bregus a’u teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar yr un pryd buddsoddi yn ein gweithlu lleol.
“Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gwneud gwahaniaeth wrth gefnogi pobl yn eu cymunedau, yna mae’r Academi Gofal yn berffaith i chi.”
Fel dilyniant i ddigwyddiad lansio’r Academi bydd cyfres o saith sesiwn galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws Wynedd er mwyn rhannu gwybodaeth gydag unigolion sydd â diddordeb ymuno â’r cynllun neu ddod i weithio yn y sector gofal yng Ngwynedd.
Ychwanegodd Gwenno Williams, swyddog yng ngwasanaethau cymdeithasol Cyngor Gwynedd: “Mae llawer o fuddiannau i’w cael wrth i chi ymuno â’r Academi, megis ennill cyflog wrth ddysgu, derbyn cefnogaeth a chymorth profiadol, cwblhau cymwysterau o werth, datblygu llwybrau gyrfa clir a gweithio mewn awyrgylch Gymreig.
“Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy'n llawn cymhelliant, sydd ag agwedd garedig a gofalgar ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
“Byddwn yn annog aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn gwaith yn y maes gofal - iddynt eu hunain neu efallai ar gyfer eu plant sydd ar fin gorffen yn yr ysgol neu’r coleg - i fynychu un o’n sesiynau galw heibio am sgwrs anffurfiol. Cadwch lygaid am fanylion y dyddiadau a’r lleoliadau ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.”
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru eich diddordeb yn yr Academi Gofal ewch i wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/AcademiGofalGwynedd
Cadwch lygaid ar gyfryngau cymdeithasol Academi Gofal Gwynedd am unrhyw ddiweddariadau. Mae modd dilyn yr Academi ar Facebook ac Instagram.
Sesiynau galw heibio cyhoeddus
Cynhelir cyfres o sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal ar y dyddiadau ac yn y lleoliadau isod:
- 25 Tachwedd, Y Ganolfan Ddysgu, Hen Gwrt, Caernarfon 2.00-6.00pm
- 26 Tachwedd, Canolfan Byw’n Iach Glaslyn, Porthmadog 3.00-6.00pm
- 27 Tachwedd, Neuadd Dwyfor, Pwllheli 3.00-6.00pm
- 28 Tachwedd, Llyfrgell Bangor, Bangor 3.30-6.00pm
- 2 Rhagfyr, Llyfrgell Blaenau Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog 3.00-6.00pm
- 9 Rhagfyr, Llyfrgell Dolgellau, Dolgellau 3.00-6.30pm
- 16 Rhagfyr, Llyfrgell Tywyn, Tywyn 3.00-6.00pm