Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd

Mae'r Cyngor hwn yn ymrwymo i fod yn Gyngor Amrywiol. Trwy hynny, rydym yn awyddus i fod yn adlewyrchu’r gymdeithas rydym yn byw ynddi gan geisio cynyddu’r niferoedd o ferched, pobl ifanc, pobl anabl, pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a phobl sy’n adnabod fel LGTBQ+ sy’n sefyll etholiad i fod yn Gynghorydd Gwynedd. 

Rydym yn ymrwymo i

  • Ddarparu ymrwymiad clir a chyhoeddus i wella amrywiaeth mewn democratiaeth
  • Ddangos diwylliant agored a chroesawgar i bawb, a hyrwyddo’r safonau ymddygiad uchaf
  • Hybu gweithrediadau fel Cyngor Amrywiol cyn etholiadau lleol 2022.
  • Weithio ar y safonau a nodir yn Siarter Cymru ar gyfer Cymorth a Datblygu i Aelodau.
  • Ddangos ymrwymiad i ddyletswydd gofal dros Gynghorwyr
  • Ystyried sut i ddarparu hyblygrwydd ym musnes y cyngor drwy adolygu ein trefniadau ymarferol
  • Barhau i annog fod yr holl aelodau yn derbyn y lwfansau a’r cyflogau y mae ganddynt hawl eu derbyn, ac yn benodol unrhyw ad-daliadau am gostau gofal, fel bod yr holl aelodau yn derbyn cydnabyddiaeth deg am eu gwaith ac nad yw rôl yr aelodau yn gyfyngedig i’r rhai all ei fforddio. 
  • Weithio tuag at sicrhau bod cynghorwyr o grwpiau a dangynrychiolir yn cael eu cynrychioli pryd bynnag fo’n bosibl mewn rolau proffil uchel a dylanwad uchel.