Mae Swyddogion Gwasanaethau Democratiaeth ar gael i ateb unrhyw gwestiwn am gyfarfodydd y Cyngor.
Darpariaeth gyfrifiadurol
Mae holl waith y Cyngor yn cael ei wneud yn electronig ble mae’n bosib, ac o ganlyniad mae technoleg gwybodaeth yn rhan hanfodol o swydd Cynghorydd.
Bydd cyfarpar cyfrifiadurol yn cael ei gynnig i chi yn ogystal a chyfrif a chyfeiriad e-bost ar gyfer gwaith y Cyngor. Cynigir hyfforddiant ar holl agweddau TG a sesiynau hyfforddiant 1-1 i unrhyw aelod sy’n dymuno, yn ychwanegol i’r ddesg gymorth sy’n ymdrin â phroblemau technegol.
Cyfarfodydd
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael ar gyfer pob cyfarfod.
Fel arfer cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn ystod oriau gwaith swyddfa. Cynhelir Pwyllgorau y Cyngor drwy wahanol gyfryngau – hy. Wyneb i wyneb, yn rhithiol neu gyfuniad o’r ddau.
Caiff cyfarfodydd y Cyngor Llawn, Y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio ac unrhyw bwyllgor arall sy'n debygol o fod o ddiddordeb i’r cyhoedd eu gwe-ddarlledu.
Cofnodir presenoldeb Cynghorwyr ym mhob cyfarfod ac yn eu gosod ar safle we’r Cyngor. Mae’r safle we yn cynnwys enw, llun â manylion cyswllt pob Cynghorydd.
Darpariaeth ar gyfer Cynghorwyr anabl
Mae adeiladau’r Cyngor yn addas ar gyfer pobl anabl gyda lle parcio ar gyfer pobl anabl yn agos i’r adeiladau. Mae lifft ym mhrif adeiladau’r Cyngor i gael mynediad i ystafelloedd cyfarfodydd ac mae darpariaeth arbennig ar gael pe bai angen gwagio adeilad mewn argyfwng.
Cyflog a Lwfansau
Mae Cynghorwyr yn derbyn cyflog am eu gwaith. Mae gan holl aelodau etholedig Awdurdodau Lleol Cymru hawl i gael cyflog blynyddol sylfaenol, a bydd y cyflog hwn yn cael ei dalu ar yr 22ain o bob mis. Mae Aelodau sydd â chyfrifoldebau ychwanegol, fel Aelod Cabinet neu Gadeirydd Pwyllgor, yn derbyn cyflogau uwch. Fe gaiff treuliau rhesymol eu talu hefyd.
Gall Cynghorydd hawlio ad-daliad costau gofal i ddarparu gofal i ddibynyddion pan fyddant yn ymgymryd â'u dyletswyddau; yn ogystal mae ganddynt hawl i dâl mamolaeth. Bydd costau gofal yn cael eu had-dalu i Gynghorwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant neu oedolion dibynnol, neu ofynion gofal personol. Mae gan Aelodau hawl hefyd i ymuno a’r cynllun pensiwn Llywodraeth Leol.