Gwynedd Effeithlon

Er mwyn sicrhau fod trigolion Gwynedd yn derbyn y gwasanaethau gorau posib mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau fod ein trefniadau gweithredu mewnol o’r safon uchaf bob amser. Ein huchelgais yw: 

  • Hybu diwylliant gweithio agored a chynhwysol sydd bob amser yn rhoi anghenion pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. 
  • Darparu adnoddau staffio digonol ac addas ar gyfer cyflwyno gwasanaethau. 
  • Bod yn sefydliad sy’n gofalu am lesiant ein gweithlu ac yn gwreiddio egwyddorion cydraddoldeb yn naturiol ym mhob rhan o’r sefydliad.
  • Gwneud y defnydd gorau o bob adnodd ariannol. 

Prosiectau Gwynedd Effeithlon 

Prif nod y prosiect ydi sicrhau fod gan y Cyngor gyflenwad digonol o staff cymwys i’w alluogi i ddarparu gwasanaethau i drigolion y sir, a bod modd i ni sicrhau fod y cyflenwad hwnnw yn ei le am y tymor hir. Byddwn yn mynd i’r afael â phroblemau penodol recriwtio staff mewn meysydd allweddol megis gofal cymdeithasol ac addysg.  

Mae diwylliant y Cyngor yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud ac mae hynny yn golygu cael gwared â rhwystrau sy’n atal staff rhag gallu cyflawni, gyda phenderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na thybiaethau.    

Rydym eisoes yn herio timau gwasanaeth i adlewyrchu ar eu trefniadau gwaith presennol, herio a ydynt yn rhoi pobl Gwynedd yn ganolog, ac ystyried a oes lle i wella.    

Byddwn yn canolbwyntio ar wreiddio diwylliant o rymuso, galluogi a chyflawni ar draws yr holl weithlu sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol yn ogystal ag yn anuniongyrchol i drigolion Gwynedd.

Byddwn yn parhau gyda gwaith sydd eisoes ar y gweill er mwyn sicrhau fod y Cyngor, yn ei holl weithredoedd, yn rhoi sylw dyledus i gydraddoldeb.  Byddwn yn adnabod gwaith sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau fod y Cyngor yn trin pawb mewn ffordd sy’n deg, beth bynnag eu nodweddion cydraddoldeb, eu cefndir a’u hanghenion.

Mae nifer y merched sy’n cyflawni swyddogaeth reolaethol o fewn y Cyngor yn anghymesur â rhaniad y gweithlu cyfan. Byddwn felly yn parhau gyda rhaglen datblygu potensial ar gyfer merched, cynnal awdit o'n dulliau recriwtio a phenodi ar gyfer swyddi rheolaethol, a chreu fforwm ar gyfer arweinwyr a darpar-arweinwyr benywaidd fel rhan o’r rhaglen i annog mwy o ferched i ymgeisio am uwch-swyddi o fewn y Cyngor.

Mae’r Cyngor eisoes wedi torri ei gyllidebau er mwyn arbed dros £32m ers 2015/16, ond yn sgil y sefyllfa economaidd bresennol, nid yw’r arian y bydd y Cyngor yn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn ddigonol i ymdopi â chwyddiant a phwysau gwario newydd. Rydym yn wynebu bwlch ariannol o dros £12 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.  

Byddwn yn ymdrechu i wneud popeth y gallwn i leihau'r effaith ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl Gwynedd gan dderbyn na fydd modd gosod cyllideb hafal heb gyfres faith o arbedion/toriadau a chynyddu’r dreth Gyngor yn uwch nag y byddem yn ei ddymuno.

Mae disgwyliadau a thueddiadau pobl wedi newid yn sylweddol yn sgil y pandemig, ac mae hyn yn gyfle i weld a oes modd i ni wella profiad trigolion Gwynedd o wasanaethau rheng flaen a swyddfa gefn ymhellach drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.

Mae’r prosiect yma yn edrych ar reolaeth strategol iechyd a diogelwch o fewn y Cyngor a’r ffordd mae hynny yn clymu i systemau llywodraethu a pherfformiad cyffredinol.  Mae’n golygu cynnal adolygiad llawn o’r system reoli yn ei chyfanrwydd.

Byddwn yn mabwysiadu Cynllun Rheoli Asedau Eiddo o’r newydd a fydd yn amlinellu cynllun y Cyngor o ran y defnyddio’n hadeiladau i ddarparu gwasanaethau. Mabwysiadwyd y Cynllun Rheoli Asedau Eiddo diwethaf yn 2016, ac mae newid sylweddol wedi bod mewn trefniadau gweithio a darpariaeth gwasanaeth ers hynny.  Mae’n amserol i fod yn edrych ar reolaeth a rhesymoli’r ystad yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor ac anghenion y gwasanaethau a ddarperir ar gyfer trigolion Gwynedd. Law yn llaw a hyn byddwn yn cadarnhau ein trefniadau gweithio hyblyg a gweithio hybrid.