Gwynedd Ofalgar
Mae gofalu am unigolion bregus yn un o’n prif gyfrifoldebau a’n huchelgais yw cefnogi trigolion Gwynedd i fyw bywydau llawn a diogel yn ein cymunedau drwy:
- Ddiogelu plant, pobl ifanc ac oedolion bregus neu sy’n agored i niwed.
- Cefnogi trigolion i gymryd rhan ac ymgysylltu gyda'u cymunedau, ac i leihau tlodi a’i effeithiau.
- Sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn byw bywydau hapus ac yn cyrraedd eu potensial o ran eu haddysg, eu hiechyd a’u lles.
- Sicrhau bod gwybodaeth ar gael i drigolion Gwynedd i'w cynorthwyo i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol.
- Galluogi trigolion Gwynedd i fyw’n annibynnol mewn llety addas a chydag urddas gyhyd ag y bo modd yn eu cymuned.
- Cefnogi gofalwyr di-dâl.
- Darparu gofal a chefnogaeth o safon uchel yn y lle iawn ar yr amser iawn.
- Cefnogi ein cymunedau i sicrhau hygyrchedd ac i ddatblygu'n Wynedd Oed Gyfeillgar.
Prosiectau Gwynedd Ofalgar
Byddwn yn moderneiddio ein cartrefi gofal, yn diweddaru ein hadnoddau cymunedol ac yn ehangu’r opsiynau llety sydd ar gael i drigolion Gwynedd.Ymysg ein cynlluniau mae:
- Tai Gofal Ychwanegol - Datblygu dros 100 o unedau newydd ym Mhenyberth, Frondeg (Caernarfon), Canolfan Lleu (Penygroes) a Dolgellau.
- Cartrefi Preswyl:
- Ailddatblygu Plas Gwilym, Penygroes.
- Uwchraddio Hafod Mawddach a Cefn Rodyn.
- Agor Uned Dementia yng Nghartrefi Bryn Blodau a Plas Hedd.
- Cynllunio datblygiadau dementia yn Plas Pengwaith
- Agor cartref nyrsio a dementia newydd yn Penyberth
- Tai â Chefnogaeth yn y Gymuned – isafswm o 6 tŷ wedi eu lleoli ar hyd a lled y sir er mwyn cynnig cartrefi gofal addas a diogel.
- Gwaith comisiynu ar y cyd gyda’r Adran Tai i ddeall y galw am lety gofal yn y dyfodol
Byddwn yn galluogi pobl Gwynedd i fyw eu bywyd gorau cyn hired a phosib o fewn eu cymunedau’n lleol. I gyflawni hyn, mae angen iddynt fod â’r wybodaeth sydd ei angen i allu manteisio ar gyfleon cymunedol fyddai’n hyrwyddo eu llesiant, yn ogystal â dulliau hyblyg o drefnu’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt.Ymysg ein cynlluniau mae:
- Mabwysiadu a hyrwyddo system gwybodaeth gymunedol, Dewis
- Integreiddio system therapi galwedigaethol rithiol, AskSarah, i'n gwefan
- Datblygu ein defnydd o Ofal Alluogwyd drwy Dechnoleg (TEC)
- Hyrwyddo defnydd o’r gwasanaeth Teleofal
- Gwneud defnydd o roboteg i alluogi byw’n annibynnol
- Datblygu ein system Taliadau Uniongyrchol drwy ddefnyddio waled rithiol.
I sicrhau ein bod yn hyrwyddo llesiant unigolion yn llawn, mae’n hollbwysig ein bod yn medru newid ein diwylliant a sicrhau ein bod yn cydweithio’n effeithiol gyda’r Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau gofal ac iechyd cynhwysfawr i’r dyfodol.
Ymysg ein cynlluniau mae:
- Cydleoli timau oedolion gyda nyrsys cymuned a therapyddion iechyd
- Datblygu systemau cydweithio fel un tîm o amgylch yr unigolyn drwy system Tîm Adnoddau Cymunedol
- Cydweithio i alinio’r Timau Adnoddau Cymunedol i'r Clystyrau Iechyd Cynradd
- Datblygu trefniadau cydweithio newydd i'r timau iechyd meddwl cymunedol
Byddwn yn hyrwyddo cyfleon hyfforddi a gwaith ar gyfer unigolion sydd angen cefnogaeth. Ymysg cynlluniau eraill, byddwn yn gwella’r ddarpariaeth yn ein Canolfannau Dydd Anableddau Dysgu yn Dolfeurig yn Nolgellau a Frondeg, Caernarfon.
Byddwn yn paratoi dadansoddiad o ddemograffeg Gwynedd; y galw am wasanaeth; ac arferion gorau gwasanaethau cymdeithasol oedolion er mwyn deall ac amlygu y galw am wasanaeth a’r adnoddau cysylltiedig a fydd eu hangen ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf.
Mae rhai trigolion yn ei chael hi’n anodd i ymdopi gyda heriau bywyd ac mae sefyllfa nifer o drigolion wedi gwaethygu yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae’r trigolion hyn angen cefnogaeth i ymdopi, i ffynnu, i fod yn ddiogel, ac i gadw’n iach.
Mae gennym rwydwaith eang drwy ein cymunedau sy’n helpu ac yn cefnogi trigolion i ymdopi ac yn ymateb i’w hanghenion amrywiol. Mae’r rhwydwaith honno angen cefnogaeth i gynnal yr ymdrech gwirfoddol hwnnw, a byddwn yn gweithio i gryfhau’r gwaith hanfodol yma dros y blynyddoedd nesaf.
Mae plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig yn ei chael hi’n anodd cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt. Byddwn felly yn gwella’n darpariaeth a’i gwneud hi’n haws i unigolion a’u teuluoedd i drosglwyddo rhwng gwahanol wasanaethau.
Rydym am wella profiadau’r plant sydd yn ngofal y Cyngor gydag anghenion dwys a chymhleth, sydd ar hyn o bryd yn gorfod gadael y sir neu Gymru er mwyn cael darpariaeth addas. Byddwn yn datblygu cartrefi preswyl cofrestredig ar gyfer grwpiau bychan o hyd at ddau o blant fydd yn caniatáu iddynt gael gofal yng Ngwynedd, mynychu ysgolion lleol, a chymryd rhan gyflawn ym mywyd eu cymunedau.