Gwynedd Werdd

Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan argyfwng hinsawdd, a’n nod yw i fod yn gyngor carbon sero net ac ecolegol gadarnhaol erbyn 2030. Ein huchelgais yw i sicrhau:  

  • Lleihad sylweddol mewn allyriadau carbon.  
  • Ymateb i effeithiau newid hinsawdd.
  • Cynnydd mewn bioamrywiaeth a chynefinoedd natur.
  • Rhwydwaith rhagorol o lwybrau i drigolion gael y dewis o deithio llesol i’w man gwaith, addysg neu hamdden.
  • Rhwydwaith cludiant cyhoeddus sy’n cwrdd ag anghenion cymunedau Gwynedd. 

Prosiectau Gwynedd Werdd 

Mae risgiau o lifogydd ac erydiad arfordirol yn cynyddu gydag effaith newid hinsawdd sy’n golygu fod lefelau môr yn codi a stormydd mwy dwys yn digwydd yn fwy aml. Mae gan Wynedd yr arfordir mwyaf yng Nghymru ac oherwydd natur ein tirwedd mae canran uchel o’n cymunedau, a’r isadeiledd sy’n eu gwasanaethu, ar yr arfordir.    

Byddwn yn cydweithio gydag asiantaethau eraill, er mwyn blaenoriaethu ein harfordir ar sail risg, ac yn llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r risgiau lle bo hynny’n bosibl.   

Mae hefyd risg o lifogydd mewndirol pan fo dŵr yn cronni ac afonydd yn gorlifo. Byddwn yn llunio cynlluniau dalgylch er mwyn helpu i osgoi/ymateb i fygythiadau presennol a chynyddol i’r dyfodol.

Byddwn yn paratoi strategaeth gwastraff ac ailgylchu newydd er mwyn ceisio cynyddu’r lefel ailgylchu yn y sir i gwrdd â’r targed cenedlaethol o 70% erbyn 2025. Bydd yn asesu pa mor effeithiol yw’n trefniadau casglu sbwriel presennol o ran hybu ailgylchu (o ddrws i ddrws ac yn ein canolfannau)  ac yn cyflwyno trefniadau newydd lle bo angen.  

Mae 'Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur' y Cyngor yn gosod uchelgais sy’n nodi y “bydd Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.”  

Mae’r Cynllun yn cynnwys amrediad eang o brosiectau i leihau allyriadau carbon o’n defnydd o fflyd a theithio, defnydd o adeiladau, caffael, goleuo strydoedd a sawl maes arall. Byddwn yn cychwyn gyda buddsoddiad pellach o £3m mewn cynlluniau ynni adnewyddol a byddwn hefyd yn llunio mesurau penodol i fynd i’r afael â sgil effaith newid hinsawdd ar gymunedau Gwynedd. 

Mae teithio llesol yn anelu i sicrhau fod cerdded a beicio yn dod y dewis arferol ar gyfer teithiau bob dydd, er mwyn gwella iechyd personol, ansawdd yr aer ac yn gwneud lleoedd yn fwy dymunol i fyw a gweithio ynddynt.  

Byddwn yn gwella llwybrau cerdded a beicio presennol y sir, a chyflwyno llwybrau teithio llesol o’r newydd er mwyn hwyluso mwy o gerdded a beicio yn ein cymunedau. 

Byddwn yn adolygu ein darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus bresennol gyda’r nod o ddatblygu rhwydwaith cludiant cyhoeddus fydd yn gyfleus, yn ddibynadwy ac yn rhesymol ei gost er mwyn caniatáu i drigolion Gwynedd deithio yn hwylus bob diwrnod o’r wythnos.   

Fel rhan o’r cynllun yma, byddwn hefyd yn cyflwyno bysiau trydan newydd.  

Byddwn yn llunio Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer Gwynedd fydd yn cyfarch anghenion tai, cyflogaeth, cymdeithasol ac amgylcheddol trigolion y sir dros y 15 mlynedd nesaf.

Mae gwaith ymgysylltu diweddar wedi amlygu fod cymunedau glân a thaclus yn hanfodol os am hybu balchder bro. Mewn ymateb i hyn byddwn yn hwyluso gwelliannau ffisegol i’r amgylchedd adeiledig o fewn ac yng nghyffiniau trefi a phentrefi yng Ngwynedd, drwy ganolbwyntio ar lefydd agored cyhoeddus. Byddwn hefyd yn hybu perchnogaeth leol a datblygu ymdeimlad o falchder bro drwy gydweithio a magu perthnasau â grwpiau/mudiadau lleol, gwirfoddolwyr a’r trydydd sector.