Hoff Strategaeth

Mae Rhybudd Swyddogol wedi ei baratoi sy'n nodi bwriad y Cynghorau i ryddhau'r ddogfen ar gyfer cyfnod ymgynghori. Yr Hoff Strategaeth yw’r cam statudol cyntaf yn y broses o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl ar y Cyd). Mae’r CDLl ar y Cyd yn cyflwyno gwybodaeth ynglŷn â lefelau twf ar gyfer cymunedau sydd wedi eu lleoli o fewn ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a bydd yn gosod polisïau a dynodiadau tir a fydd angen asesu ceisiadau cynllunio yn ei erbyn, hyd at 2026.

Mae’r Hoff Strategaeth ar gael i’w harchwilio a gwneud sylwadau arni. Mae llawlyfr crynodeb o’r ddogfen wedi ei pharatoi yn ogystal. Ymhellach mae cyfres o ddogfennau cefndir wedi eu paratoi yn ymwneud â gwahanol bynciau, mae'r rhain yn ffurfio'r sail dystiolaeth ar gyfer cynnwys yr Hoff Strategaeth.


Pam rydym yn ymgynghori
Mae’r ‘Hoff Strategaeth’ yn cynnwys y weledigaeth a’r amcanion, polisïau strategol ac awgrymiad o faint o dwf sydd ei angen ac yn lle. Mae’r Hoff Strategaeth yn ddogfen strategol ac felly nid yw’n cynnwys polisïau manwl a dynodiadau tir penodol.

Ar y cyd â’r Hoff Strategaeth fe wahoddir sylwadau ar yr Adroddiad Arfarniad Cynaliadwyedd (AAC). Mae’r adroddiad hon yn egluro sut ymgymerwyd â'r arfarniad sut mae’r broses wedi cynorthwyo wrth ddatblygu’r Hoff Strategaeth. Hefyd yn destun yr ymgynghoriad cyhoeddus mae’r Adroddiad Sgrinio yn gysylltiedig â’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC).