SOS #Galw Gofalwyr

Mae swyddi ar gael yn y maes gofal. 'Ryda ni’n chwilio am bobl sydd....

  • isho gwneud gwahaniaeth
  • isho cefnogi pobl yn eu cymunedau
  • isho newid neu ddatblygu gyrfa yn y maes iechyd a gofal
  • yn barod i gamu 'mlaen i helpu mewn cyfnod o argyfwng.

Mae ymgyrch SOS #Galw Gofalwyr isho recriwtio mwy o staff i’r maes iechyd a gofal yn y gymuned. Mae swyddi llawn amser a rhan amser ar gael, gyda thelerau gwaith da ac oriau cyson. 

Ymunwch â'r Tîm!

Beth amdani?

Byddem yn hapus iawn i gael sgwrs efo chi i drafod y cyfleon yn eich ardal chi.

Cysylltwch â Gill neu Elen am sgwrs ar 07384876908 neu ar e-bost: gofalu@gwynedd.llyw.cymru

Neu gallwch lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb a byddwn yn cysylltu nôl efo chi’n fuan.

Close
 

 

Dyma ychydig mwy o wybodaeth am y math o waith sydd ar gael, y buddiannau, a blas o beth sydd gan staff sy'n gwneud y swyddi yn barod i'w ddweud.... 

Mae nifer o wasanaethau a rolau gwahanol ar gael ar hyd a lled Gwynedd, gyda chyfle i ymuno â thîm sydd am wneud y gorau i bobl Gwynedd. Byddwch yn helpu pobl i fyw eu bywyd fel maen nhw’n dymuno ei fyw.

  • Ein gwasanaeth Gofal Cartref - Drwy gefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain byddwch yn eu helpu i fyw bywyd i’r eithaf, a bod mor annibynnol a hapus â phosib o fewn eu cymuned. Gallai hyn olygu helpu gyda gofal personol, helpu i wneud bwyd, sgwrsio a deall eu cryfderau. Mae’n bwysig dod i ddeall be sy’n bwysig i’r person hwnnw, a gweithio gydag eraill yn y gymuned i’w helpu i gyflawni hynny. 
  • Ein Gwasanaeth Anableddau Dysgu – Byddwch yn helpu oedolion o bob oed i fod yn byw bywyd llawn ac actif yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain, gan ddod i adnabod y bobl, a deall be sy’n bwysig iddynt ac yn eu gwneud yn hapus.
  • Ein cartrefi preswyl – Mae gan y Cyngor 11 o gartrefi preswyl ar gyfer pobl hyn a 2 ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu.

    Mae’r staff ymhob cartref yn cefnogi’r trigolion i fyw eu bywydau gyda'r ethos 'fel petaent yn byw gartref'. Byddwch yn dod i adnabod y preswylwyr a’u teuluoedd ac yn helpu i sicrhau eu bod yn cael byw bywyd mor llawn â phosib mewn awyrgylch diogel a chartrefol.

    Byddwch yn dod i ddeall be sy’n bwysig i bob unigolyn, gan ymdrechu i gadw a chynnal urddas, annibyniaeth a phreifatrwydd yr holl unigolion mewn awyrgylch cynnes a gofalgar, a bod yn sensitif i’r ffordd y gall anghenion newid ac addasu.

    Gall hyn olygu gwneud gwahanol weithgareddau, mynd ar dripiau yn ogystal â darparu gofal personol, sgwrsio a chadw cwmni.
  • Gofal Dydd - Byddwch yn cefnogi unigolion mewn canolfannau penodol i gymdeithasu, gwneud ffrindiau a mwynhau gweithgareddau. Weithiau, yn ôl yr angen, caiff pryd a pheth gofal ei gynnwys. Mae’r gwasanaeth yma wedi ei ohirio dros dro oherwydd yr argyfwng.

Oes gennych chi yr awydd i helpu a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned yna mae cyfle i chi o fewn y gwasanaeth gofal i oedolion.

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig hyfforddiant, telerau gwaith da ac oriau cyson, a’r cyfle i helpu trigolion bregus y sir i fyw bywydau mor llawn â phosib.

  • Gweithwyr Gofal ­- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol, dim ond calon i helpu!  Mae’r rôl yma’n cynnwys gweithio a chefnogi pobl i fedru cyflawni’r pethau sy’n bwysig iddynt, a byw bywyd mor annibynnol a hapus â phosib. Gallai hynny olygu helpu pobl gyda phob agwedd o fywyd pob dydd, cadw cofnod o’r gwaith, trafod a chydlynu gyda theuluoedd, gofalwyr aelodau’r gymuned a gweithwyr eraill sy’n rhan o rwydwaith cefnogol yr unigolyn.
  • Rheolaeth a gweinyddu - Mae rheolwyr a staff gweinyddol yn gweithio’n agos i gydlynu’r gwasanaethau o ddydd i ddydd. Mae darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig i’r unigolyn wrth wraidd y gwaith.
  • Arlwyo - Mae gweithwyr arlwyo yn gwneud yn siŵr fod pobl yn derbyn prydau maethlon blasus, gan weithio law yn llaw â’r preswylwyr ac ystyried pa fath o ddiet sy’n fwyaf addas iddynt.
  • Gadw tŷ a chynnal a chadw – Mae’r rolau yma’n bwysig er mwyn sicrhau amgylchedd glan, diogel a chyfforddus i drigolion, ymwelwyr a staff.

Mae gwaith gofal yn cynnig yn llawer mwy na gofal personol yn unig. Mae cyfle i chi rannu eich diddordebau, a helpu pobl i wella, datblygu neu ail-gydio mewn sgiliau fydd yn eu helpu i fyw bywyd mwy annibynnol a bodlon.

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig …

  • Swyddi gyda cytundebau shifftiau amrywiol llawn neu ran amser yn eich ardal chi
  • Cyflog uwch na graddfa “cyflog byw”
  • D.B.S am ddim
  • Cofrestriad proffesiynol am ddim
  • Cyflwyniad i’ch paratoi i weithio a hyfforddiant am ddim
  • Os ydych yn newid gyrfa rydym yn cynnig cefnogaeth ymarferol i’ch helpu i ddefnyddio eich sgiliau mewn ffyrdd gwahanol
  • Pensiwn gwaith da
  • Cynllun buddiannau staff
  • Gwyliau yn cychwyn o 24.5 dydd pro rata
  • Cefnogaeth rheolwr profiadol , cydweithwyr a chydweithwyr o adrannau eraill megis iechyd a diogelwch, iechyd galwedigaethol a chwnsela
  • Offer ac adnoddau i’ch cefnogi a’ch cadw yn saff gan gynnwys cyflenwad personol o offer amddiffynnol addas menig masgiau ffedog … am ddim
  • Cyfleon datblygu parhaus i ddatblygu eich gyrfa o fewn y maes. Cyfle i ennill cymwysterau wrth fynd, oll wedi’u hariannu gan y Cyngor.

Mae’r Cyngor yn falch iawn o’r holl staff sy’n gweithio yn y maes gofal i oedolion, ac yn gwerthfawrogi eu hymroddiad, e’u brwdfrydedd a’u caredigrwydd.

Mae ein staff yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Ngwynedd pob dydd. Dyma sydd gan rai ohonynt i’w ddweud:

 

 

 

 

 

 

 

 

  

Wyddoch chi fod Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn weithiwr cefnogol?

Gweithiwr Cefnogol o ddydd i ddydd, Flamebaster yn ei amser rhydd. Efallai fod Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn wyneb cyfarwydd i ambell un oherwydd eu goginio ond oeddech chi’n gwybod ei fod yn gweithio o ddydd i ddydd fel Gweithiwr Cefnogol i dîm Anableddau Dysgu Arfon? EPIC!’

 

Am fwy o fanylion am bob math o gyfleon yn y maes gofal, ewch i:

Neu, i weld yr holl swyddi sydd ar gael ar draws y sir gan wahanol ddarparwyr, ewch i: .

 

Beth amdani?

Byddem yn hapus iawn i gael sgwrs efo chi i drafod y cyfleon yn eich ardal chi.

Cysylltwch â Gill neu Elen am sgwrs ar 07384876908 neu ar e-bost: gofalu@gwynedd.llyw.cymru

Neu gallwch lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb  a byddwn yn cysylltu nôl efo chi’n fuan.

Close