Enwau Lleoedd

Prosiect Gwarchod Enwau Lleoedd 

Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Iaith yn 2018, oedd yn cyflwyno darlun o’r hyn yr oedd gwahanol swyddogion ac adrannau o fewn y Cyngor yn gyfrifol amdano yng nghyd-destun enwi, yn amlygu’r angen i gysoni safiad a gweithrediad y Cyngor yn y maes hwn, ac hefyd yn amlygu cyfleoedd i hybu defnydd o enwau cynhenid Cymraeg, a thrwy hynny godi statws y Gymraeg, gyda phartneriaid allanol. Amlygwyd yr angen i:

  • Cysoni’r modd y mae’r Cyngor yn gweithredu wrth arddel enwau Cymraeg  
  • Sicrhau mai fersiynau Cymraeg enwau lleoedd sydd yn cael y flaenoriaeth gyda phartneriaid allanol 

  • Ceisio cymryd camau rhagweithiol i ddiogelu ac atal mwy o newidiadau i enwau cynhenid  

Gobeithir, o ganlyniad i’r prosiect:  

  • Y bydd trefniadau clir o fewn y Cyngor ar gyfer defnyddio ein dylanwad i ddiogelu a rhoi statws i enwau cynhenid Cymraeg.  

  • Y byddwn wedi sefydlu polisi neu weithdrefn fydd yn sicrhau bod unrhyw swyddogion o fewn y Cyngor yn deall cwmpas eu dylanwad a’r camau y mae disgwyl iddynt ei cymryd i ddiogelu enwau cynhenid Cymreig.  

  • Y bydd llai o enwau cynhenid yn cael eu newid i’r Saesneg ac y bydd partneriaid allanol yn cefnogi defnydd o’r enwau Cymraeg, gwreiddiol, yn hytrach nag enwau “newydd” sydd wedi eu gosod yn fwy diweddar 

  • Y bydd statws enwau Cymreig yn cael ei godi, ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr enwau hynny yn cynyddu ymysg trigolion ac ymwelwyr i’r sir.  

At ei gilydd felly mae’r prosiect yn dilyn dau gyfeiriad. 

  1. Edrych ar sut mae enwau tai yn cael eu newid, sut mae mapiau a rhestrau enwau’n cael eu diweddaru yn swyddogol a pha hawliau statudol o dan y deddfau presennol sydd gan y cyngor i ddylanwadu ar hynny. Y nod yw ceisio sicrhau bod polisïau cadarn ar waith i atal enwau cynhenid rhag cael eu newid ac yn sgil hynny, eu colli am byth. 
  2. Hybu ac annog y cyhoedd yn gyffredinol am bwysigrwydd enwau lleoedd a’r hanes a threftadaeth diwylliannol sydd yn perthyn iddynt. Drwy weithio gyda mudiadau, ysgolion, a drwy bostio deunydd difyr ar wefannau cymdeithasol y nod yw ennyn parch mewn enwau lleoedd. Y mwya’n byd o barch fydd yn cael ei greu, y lleiaf tebygol y bydd pobl o ddileu hen enwau Cymraeg.   


Map enwau lleoedd

Mae Map Enwau Lleol wedi cael ei greu er mwyn bod yn  gofnod byw o enwau lleol a llafar ar leoliadau a nodweddion o fewn cymunedau’r sir.

Gweld mwy o wybodaeth a'r map enwau lleoedd

 

Cysylltau defnyddiol

baneriaith4

 

iaith@gwynedd.llyw.cymru 

01286 679452