Map Enwau Lleol Gwynedd
Mae Map Enwau Lleol wedi cael ei greu er mwyn bod yn gofnod byw o enwau lleol a llafar ar leoliadau a nodweddion o fewn cymunedau’r sir.
Bydd posib i grwpiau cymunedol neu ysgolion gael mynediad i'r map er mwyn cyfrannu a chofnodi rhai o’r enwau anffurfiol hynny, sydd yn rhan o hanes a thafodiaith leol, ac na wnaiff byth ymddangos ar fap swyddogol.
Meddai Mei Mac, y Swyddog Prosiect Enwau Lleoedd:
"Mae nifer fawr o hen enwau ar strydoedd, ardaloedd, nodweddion daearyddol, pontydd ac yn y blaen nad ydynt ar fapiau swyddogol, ond eto maen nhw’n cael eu defnyddio ar lafar bod dydd o fewn ein cymunedau. Maen nhw’n enwau difyr ac fel unrhyw enw lle yn cynnwys cyfeiriadaeth gyfoethog o hanes a threftadaeth leol."
Mae’r nodwedd ychwanegu gwybodaeth yn hawdd iawn ei ddefnyddio, ac yn cynnwys lle i roi disgrifiad o’r safle, pwt o wybodaeth gefndirol a hyd yn oed cynnwys llun. Bydd y cofnodion wedyn yn ymddangos ar y map, a’r lleoliadau wedi eu marcio gyda dotyn gwahanol liwiau – yn dynodi gwahanol fathau o nodweddion.
Os oes gennych chi ddiddordeb cyfrannu at y map, neu gael fyw o wybodaeth, cysylltwch â'r Uned Iaith ar iaith@gwynedd.llyw.cymru (01286 679629/679469 ).
Gallwn hefyd drefnu gweithdai i ysgolion neu ymweliad i grwpiau er mwyn dangos sut mae’r map yn gweithio a sut y gallwch chi roi gwybodaeth arno.
Canllawiau defnyddio map enwau lleoedd Gwynedd
Datganiad diogelu data: Nid yw’r Cyngor yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y wybodaeth sydd yn cael ei fewnbynnu ar y map. Bydd unrhyw gofnodion yn cael eu gwirio gan swyddogion, ond cyfrifoldeb yr unigolion yw sicrhau nad oes gwybodaeth anghywir/anaddas yn cael ei gynnwys.
Cyfrifoldeb yr unigolion hefyd fydd sicrhau nad ydynt yn torri rheolau hawlfraint wrth rannu lluniau ar y map.
Mae’r map ar gyfnod profi ar hyn o bryd, felly os oes gennych chi unrhyw adborth neu os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion, cysylltwch efo ni, os gwelwch yn dda, ar iaith@gwynedd.llyw.cymru