Nwyddau Ffug

Beth yw nwyddau ffug?

Nwyddau sydd wedi eu creu i edrych fel nwyddau cofrestredig yn fwriadol yw nwyddau ffug. Mae nwyddau ffug yn broblem cenedlaethol a mae mwy a mwy o nwyddau ffug ar gael. Gall nwyddau ffug gael eu hadnabod fel 'pirated','replicas' neu 'copiau'. Gall nwyddau ffug gynnwys dillad, gemwaith, offer trydanol, persawr, batris ceir, tegannau plant a llawer mwy.

Efallai eich bod yn meddwl eich bod yn cael bargen, ond byddwch yn wyliadwrus. Nid yw cwmniau mawr yn rhoi gostyngiadau sylweddol ar eitemau a gallech gael eich twyllo i dalu swm sylweddol o arian am eitem peryglus. 

 

Pam na ddylech brynu nwyddau ffug?

Torri'r gyfraith
Mae'n anghyfreithlon i brynu nwyddau ffug sydd yn defnyddio yr un dyluniad/ logo (trademark) a chwmni arall heb eu caniatâd. Mae prynu nwyddau ffug gan droseddwyr yn rhoi mwy o arian iddynt barhau i dwyllo cwsmeriaid.

 

Eich diogelwch chi
Yn y rhan fwyaf o achosion mae nwyddau ffug o ansawdd gwael ac mewn nifer o achosion yn beryglus-

  • Dillad plant - nid yw dillad plant ffug wedi cael eu profi yn erbyn tân i'r un graddau, os o gwbwl
  • Sbectol haul ffug - efallai na fyddent yn amddiffyn eich llygaid rhag belydrau niweidiol
  • Offer trydanol - Nid ydynt wedi cael eu profi i'r un graddau, os o gwbl

Os yn prynu nwyddau ffug dros y we rydych mewn perygl o rhyddhau gwybodaeth amdanoch chi neu eich manylion banc i droseddwyr.

 

Trefn gwyno

Mae nwyddau ffug yn cael eu gwerthu am bris dipyn rhatach na'r nwyddau gwreiddiol felly mae'n sefyll i reswm fod ansawdd nwyddau ffug yn dipyn salach. Nid oes gan cwmniau sydd yn gwerthu nwyddau ffug unrhyw fath o drefn gwyno a byddech yn annhebygol o dderbyn unrhyw fath o iawndal ariannol os wedi derbyn nwyddau wedi torri.

 

Effeithio'r economi lleol
Mae prynu newyddau ffug yn cael effaith ar fusnesau gonest. Ni fydd pobl sydd yn gwerthu nwyddau ffug yn talu trethi a bydd hyn yn effeithio ar yr economi leol a chenedlaethol e.e siopau/ ffatrioedd yn cau.

 

Nwyddau Ffug a'r Gyfraith
Mae'n debygol iawn fod pobl sydd yn creu nwyddau ffug i edrych fel nwyddau cwmniau eraill heb hawl i wneud hynny yn torri'r gyfraith o dan Deddf Nod Masnach 1994 neu  THE CONSUMER PROTECTION FROM UNFAIR TRAFING REGULATIONS 2008

 

Sut allaf amddiffyn fy hyn?

  • Os yn prynu ar-lein, gwiriwch yr URL, yn aml bydd gwallau sillafu yn yr URL ac yn y wefan
  • Gwiriwch lle mae'r masnachwr wedi ei leoli. Oes yna gyfeiriad neu dim ond e-bost a cyfeiriad PO BOX. Byddwch yn wyliadwrus os nad oes cyfeiriad llawn.
  • Os yn gwneud taliad ar-lein, gwiriwch fod URL y dudalen yn cychwyn gyda 'https'
  • Peidiwch a phrynu nwyddau oddi ar wefannau dieithr, defnyddiwch wefannau sydd ac enw da. Os yn defnyddio gwefan newydd ymchwiliwch y wefan ar y we, mae pobl yn barod i hysbysu pobl eraill o beryglon mewn fforwm ar-lein.
  • Peidiwch ac agor lincs mewn e-byst
  • Sicrhewch fod eich meddalwedd diogelwch wedi ei ddiweddaru
  • Peidiwch a chymryd yn ganiataol fod gwefan '.co.uk' wedi ei leoli ym Mhrydain. Mae troseddwyr yn gallu newid union lleoliad gwefan.

 

Gwefannau Defnyddiol

 

Cysylltu â ni

Peidiwch a twyllo'ch hun, prynwch nwyddau dilys a rhowch wybod i ni am eitemau ffug: