Gwrychoedd Cefn Gwlad

Mae gwrychoedd cefn gwlad yn chwarae rôl bwysig ar ffermydd. Maent yn helpu i atal erydiad pridd a dŵr ffo, cynnig cysgod, rheoli stoc a gwarchod cnydau rhag y gwynt. Maent hefyd yn bwysig ar gyfer bywyd gwyllt ac yn rhan allweddol o’r tirlun.

Mae'r rhan fwyaf o wrychoedd cefn gwlad yn cael eu diogelu gan y Rheoliadau Gwrychoedd 1997. Mae’n anghyfreithlon i gael gwared ar y rhan fwyaf o wrychoedd cefn gwlad heb gael caniatâd gan eich Awdurdod Cynllunio Lleol yn gyntaf. 

Mae’r rheoliadau yn eich rhwystro rhag cael gwared ar y rhan fwyaf o wrychoedd cefn gwlad heb gyflwyno Cais i gael gwared â gwrych i Gyngor Gwynedd yn gyntaf.

Mae’r rheoliadau  yn gosod meini prawf sydd yn cael eu defnyddio gan y Cyngor er mwyn penderfynu pa wrychoedd sydd yn bwysig. Fe all y Cyngor  roi gorchymyn i gadw gwrychoedd pwysig.


Cais i gael gwared â gwrych

Er mwyn cael gwared ar wrych cefn gwlad yng Ngwynedd (ac eithrio ardal Parc Cenedlaethol Eryri) bydd angen i chi gyflwyno Cais i gael gwared â gwrych:

  • Drwy'r post: Lawrlwythwch y ffurflen Cais i gael gwared â gwrych a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen gais ei hun.
  • Ffôn: Ffoniwch 01766 771000 a gwneud cais i ffurflen bapur gael ei phostio i chi.


Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni:

COFIWCH! Os yw'r datblygiad o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, byddwch angen cysylltu gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri nid gyda Chyngor Gwynedd. I weld a yw'r datblygiad yn y Parc Cenedlaethol, edrychwch ar y map - Ardal Parc Cenedlaethol Eryri.