Cynlluniau a mapiau

Wrth gyflwyno cais cynllunio byddwch angen cyflwyno mapiau a chynlluniau o'r datblygiad / safle. Os ydych yn cyflwyno eich cais drwy asiant / pensaer, mae'n bosib y byddant yn trefnu hyn ar eich rhan.

 

Mapiau

Gyda phob cais cynllunio mae’n rhaid cyflwyno cynllun lleoliad ar fap i raddfa 1:1250 neu 1:2500 sy'n dangos y safle a’i ffiniau.

Bydd angen amlinellu safle'r cais yn glir mewn COCH ar y map. Dylai gynnwys yr holl dir sydd ei angen ar gyfer cwblhau'r datblygiad arfaethedig gan gynnwys mynediad, tirlunio a meysydd parcio.

Bydd angen rhoi llinell LAS o amgylch unrhyw dir arall o eiddo'r ymgeisydd sy'n agos i'r safle neu sy'n ffinio arno. 

 

Sut mae prynu map?

Gallwch brynu mapiau drwy wefan y Porth Cynllunio neu gan yr asiantaethau sydd wedi eu hawdurdodi gan yr Ordnance Survey Superplan.

 

Cynlluniau

Gyda phob cais cynllunio bydd angen cyflwyno:

  • Cynllun lleoliad (graddfa 1:1250 neu 1:2500) - manylion uchod
  • Cynllun bloc arfaethedig (1:200 – 1:500)
  • Cynlluniau llawr presennol ac arfaethedig (1:50 – 1:100)
  • Gweddluniau (elevations) presennol ac arfaethedig (1:50 – 1:100)
  • Trawsluniau (cross-sections) safle presennol ac arfaethedig (1:50 – 1:100)

Fel arfer, asiant / pensaer fydd yn darparu'r cynlluniau hyn.

 

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni: 

  • Ar-lein: Ymholiad cyffredinol am gynllunio 
    Y tro cyntaf y byddwch yn cysylltu â ni ar-lein bydd angen i chi greu cyfrif. Bydd eich cyfrif yn eich galluogi i anfon ymholiad i ni, cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'ch ymholiad a'n galluogi ni i anfon ymateb i chi. 
  • Ffôn: 01766 771000