Diffiniadau dosbarth defnydd

Mae dosbarthiadau defnydd (categorïau) wedi eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau, fel a ganlyn:

Diffiniadau dosbarth defnydd
 Dosbarth DefnyddEglurhad 

Dosbarth C3.

Tŷ Annedd; Prif Gartrefi

Defnyddio tŷ annedd fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am fwy na 183 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr gan –

(a) person sengl neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;

(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu

(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd sydd yn nosbarth C4).


Dehongli Dosbarth C3:

  • Wrth gyfrifo'r 183 o ddiwrnodau, mae unrhyw amser a dreulir gan un aelwyd mewn llety a ddarperir at ddibenion galwedigaethol, megis rigiau olew neu farics, yn cyfrannu at y 183 o ddiwrnodau

Dosbarth C5.

Tŷ Annedd; Cartrefi eilaidd

Defnydd fel tŷ annedd, ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am 183 o ddiwrnodau neu lai gan –

(a)    un person neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;

(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu

(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd o fewn dosbarth C4).


Dehongli Dosbarth C5:

  • At ddibenion Dosbarth C5(a), dehonglir “un aelwyd” yn unol ag adran 258 o Ddeddf Tai 2004

Dosbarth C6.

Llety gosod tymor byr

Defnyddio tŷ annedd fel llety gosod tymor byr masnachol am gyfnod heb fod yn hwy na 31 o ddiwrnodau (ar gyfer pob cyfnod meddiannu).