Ydw i angen caniatad cynllunio?

Byddwch angen caniatâd cynllunio os ydych am addasu adeilad, darn o dir neu adeiledd parhaol (fel wal) a bod angen i chi wneud gwaith adeiladu i gyflawni hyn. Byddwch hefyd angen caniatâd cynllunio os bydd y gwaith yn newid y ffordd y mae adeilad neu’r tir yn cael ei ddefnyddio.

Fel arfer, bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i: 

 

Datblygiadau a ganiateir lle nad oes angen caniatâd cynllunio arnoch

Gallwch gwneud rhai mân welliannau, addasiadau ac estyniadau i’ch tŷ heb fod angen caniatâd cynllunio i’w cwblhau. Gall y rhain gynnwys mathau penodol o bortsh, heuldai gwydr o faint penodol a rhai addasiadau mewnol. Mae arweiniad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

A oes angen caniatad arnoch chi?

Os ydych dal yn ansicr a oes angen caniatâd cynllunio arnoch, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth Cyngor Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio