Olion Hanesyddol
Mae gan Wynedd etifeddiaeth gyfoethog o olion hanesyddol gyda chyfanswm o tua 500 o henebion o bob math gan gynnwys:
- ogofâu
- safleoedd angladdol a defodol
- safleoedd amddiffynnol a domestig cynhanesyddol
- safleoedd Rhufeinig
- gwrthgloddiau llinellol
- croesau a cherrig arysgrifedig
- safleoedd a ffynhonnau eglwysig
- safleoedd seciwlar canoloesol a rhai diweddarach
- pontydd
- safleoedd diwydiannol
Mae henebion cofrestredig yn ychwanegu at gyfoeth tirlun a diwylliant Gwynedd er nad yw’r mwyafrif ohonynt yn dod ag unrhyw fudd economaidd i dirfeddianwyr.
I chwilio am henebion cofrestredig yng Ngwynedd ewch i'r:
Henebion cofrestredig a chaniatâd cynllunio
Mae angen caniatâd penodol er mwyn ymgymryd ag unrhyw waith yn agos at henebion cofrestredig. Gall hyn ddylanwadu ar unrhyw geisiadau cynllunio yn yr ardal. Am ragor o wybodaeth ewch i:
Caniatâd heneb gofrestredig
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw waith ar heneb gofrestredig, byddwch angen cyflwyno Caniatâd Heneb Gofrestredig i Cadw. Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen gais ar gael ar wefan Cadw - Caniatâd Heneb Gofrestredig.
Grantiau
Mae grant ar gael gan ar gyfer gwneud gwaith cadwraeth ar henebion / olion hanesyddol. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cadw - Grant Henebion.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am henebion cofrestredig ewch i wefan Cadw - Henebion.
neu cysylltwch â ni: